Ceisio achub Twmbarlwm o'r beicwyr

Twmbarlwm
Mae’r cymdeithasau hanes yn awyddus i wneud ragor o waith archeolegol ar Dwmbarlwm

Mae dau grŵp hanes o Gwmbrân yn ymgyrchu i achub un o gofadeiladau fwyaf "eiconig" Gwent, y Twmbarlwm.

Mae'r safle, sy'n dyddio'n ôl i'r Oes Efydd, o dan fygythiad gan bobl sy'n gyrru beiciau traws gwlad dros y domen, yn ôl Cymdeithas Twmbarlwm a Chymdeithas Cwmbrân Hynafol.

Maent felly wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus ddydd Mercher i drafod y sefyllfa ac i geisio lledaenu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y safle ymhlith pobl sy'n mwynhau beicio cefn gwlad.

Mae archeolegwyr hyd yn hyn wedi profi bod Twmbarlwm yn cynnwys tomenni gladdedigaeth o 1,500cc.

Mae lluniau erial hefyd yn awgrymu y gall fod yna lys gerllaw oedd yn gartref i un o dywysogion Cymru.

Eglurodd Richard Davies, sylfaenydd Cymdeithas Cwmbrân Hynafol, eu bod eisoes wedi dod â chynrychiolwyr o Heddlu Gwent a chynghorau Caerffili a Thorfaen at ei gilydd i drafod y sefyllfa, a dywedodd bod pawb yn gefnogol i'r ymgyrch i greu cynllun i amddiffyn Twmbarlwm yn y cyfarfod cyhoeddus.

"Mae Twmbarlwm yn eiconig i bobl de Gwent," meddai Mr Davies.

"Mae o i'w weld o bobman, ac o'r top mae'n bosib gweld saith sir - dros yr Hafren i Loegr, Bannau Brycheiniog ac i lawr i Gaerdydd.

"Mae'n rhan o driongl gaerau Oes Haearn; mae o union 6 cilomedr o'r rhai yng Nghaerlllion a Chasnewydd."

'Diffyg dealltwriaeth'

Mae cynghorau Caerffili a Thorfaen a'r cymdeithasau hanesyddol wedi llwyddo i ennill grant i dalu am ychydig o waith cadwraeth ar Dwmbarlwm, ac am godi arwydd ar gyfer ymwelwyr er mwyn olrhain ei hanes.

Twmbarlwm
Mae’r cymdeithasau yn awyddus i ddenu ymwelwyr i domen Twmbarlwm

"Mae pobl yn gyrru eu faniau i waelod Twmbarlwm, yn dadlwytho eu beiciau cwad ac yn mynd am reid drosto," meddai Mr Davies.

"Dwi'n credu mai oherwydd diffyg dealltwriaeth yw hyn. Nid ydynt yn deall ei phwysigrwydd hanesyddol, na'r ffaith ei bod wedi cofrestru gyda Cadw."

Mae lluniau laser o'r awyr sy'n gallu mesur teipograffeg y ddaear yn awgrymu rhagor o olion hanesyddol yn yr ardal, gan gynnwys y llys brenhinol hynafol.

Nod Cymdeithas Twmbarlwm a Chymdeithas Cwmbrân Hynafol yw trefnu rhagor o waith archeolegol ar y safle.

Dywedodd Richard Davies eu bod yn gobeithio y bydd Stadau Llanarth, perchennog rhan o domen Twmbarlwm, hefyd yn dod i'r cyfarfod.

Cynhelir y cyfarfod yng Nghlwb Pêl Droed Cross keys am 7pm ar Chwefror 22.