Newid delwedd tref hanesyddol Y fflint

Siop Copleston's yn y 1920au Image copyright Other
Image caption Siop ar Ffordd Caer yn y 1920au

Caiff pobl ardal tref Y Fflint gyfle i weld y drafft diweddara yn y cynlluniau i drawsnewid y dref.

Dyma'r cam diweddara mewn proses o ymgynghori gan y cyngor sir.

Mae'r cynllun yn cyd-redeg gyda chynllun arall - Menter Treftadaeth Treflun - sydd â'r nod o amlygu pwysigrwydd olion hanesyddol yr ardal.

Castell Y Fflint oedd y cyntaf o Gestyll Edward I wrth iddo geisio goresgyn Cymru ar ddiwedd y 13eg Ganrif.

Mae'r atyniad yn anodd ei weld o'r dref, ac mae'r ddau gynllun yn ceisio gwella cysylltiadau rhwng y castell a'r dref.

O ran y dref mae yna fwriad i ddymchwel 200 o dai o'r 1970au, a chynllun i wella fflatiau'r dref.

Bydd siopau ar Sgwâr Tralawney yn cael eu haddasu gan roi golwg mwy hanesyddol iddyn nhw.

Mae rhan o'r gwaith eisoes wedi dechrau.

Fe fydd y cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ddydd Iau.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.