Taclo tân mewn archfarchnad yn Llanelli

Bu'n rhaid i 85 o bobl adael archfarchnad yn Llanelli yn dilyn tân mawr yno nos Fercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i siopa Asda yn Stryd Murray am 8.17pm nos Fercher.

Bu'n rhaid i 60 o gwsmeriaid a 25 aelod o staff adael yr adeilad wedi i'r tân ddechrau mewn eil fwyd yng nghanol yr archfarchnad.

Ar ei anterth roedd chwe injan dân ar y safle gan gynnwys criwiau o Lanelli, Gorseinon, Gorllewin Abertawe, Pontiets a'r Tymbl.

Roedd mwg wedi effeithio siopau cyfagos.

Dywedodd Chris Margetts o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru y byddai ymchwiliad yn cael ei lansio ar y cyd gyda Heddlu Dyfed Powys i ddarganfod sut y dechreuodd y tân.

Ychwanegodd fod yr adeilad yn ddiogel ond bod ychydig o ddifrod wedi'i achosi gan fwg.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.