Menyw'n marw cyn casglu anrhydedd

Barbara Lawrence Image copyright Other
Image caption Cafodd yr anrhydedd am ei gwasanaeth gwirfoddol i'r gymuned

Mae menyw gafodd yr MBE am wasanaeth i'w chymuned wedi marw wythnosau cyn derbyn yr anrhydedd ym Mhalas Buckingham.

Roedd Barbara Lawrence, 66 oed o Raeadr Gwy, ar Restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

Mae'r gymuned wedi rhoi teyrnged i'r perchennog gwesty oedd wedi ymddeol, Dinesydd y Dref yn 2009.

Cafodd ei hanrhydeddu am wasanaeth gwirfoddol i'r gymuned.

'Helpu'

Cyfeiriodd ei ffrind, Phil Rogers, at ei gwaith ar gyfer achosion da.

Ychwanegodd y crochenydd ei fod wedi adnabod Mrs Lawrence a'i gŵr am fwy na 30 mlynedd.

"Doedd hi erioed yn chwilio am sylw, roedd hi dim ond am helpu pobl," meddai.

"Gweithiodd yn ddygn ar gyfer nifer o sefydliadau a hyd yn oed ychydig o ddyddiau cyn iddi farw roedd hi'n poeni amdanyn nhw ac yn cynghori ei gŵr sut y gallai eu helpu.

'Yn greulon'

"Dwi ddim yn cofio unrhyw ddiwrnod pan oedd hi'n isel. Roedd hi'n fenyw benderfynol oedd yn caru'r dre a'i phobl."

Dywedodd y dirprwy faer, Clare Evans, fod pobl yn drist iawn.

"Mae Barbara a'i gŵr, Brian, wedi bod yn llysgenhadon gwych i'r dre.

"Roedd cyngor y dre ar ben eu digon pan gafodd hi'r MBE ac mae'n greulon dros ben na fydd hi'n gallu casglu'r wobr."

Straeon perthnasol