Teyrngedau i gefnogwr pêl-droed

Michael Dye Image copyright Wales News Service
Image caption Cafodd Michael Dye anafiadau angheuol cyn y gêm yn Wembley fis Medi

Bydd cefnogwyr Caerdydd yn rhoi teyrnged i gefnogwr gafodd ei ladd yn stadiwm Wembley cyn y gêm yng Nghwpan Carling yn erbyn Lerpwl ddydd Sul.

Bu farw Michael Dye, 44, o anafiadau i'w ben ar ôl iddo gael ei ddyrnu cyn y gêm rhwng Cymru a Lloegr yn Euro 2012 fis Medi.

Bydd rhan o'r stadiwm y tu allan i rai o'r mynedfeydd yn cael ei neilltuo i bobl roi blodau, sgarffiau a baneri.

Dywedodd Gwyn Davies o glwb cefnogwyr Caerdydd: "Maen nhw'n neilltuo ardal er mwyn i bobl roi teyrngedau.

"Roedd rhai am gael munud o dawelwch ond dwi'n meddwl taw'r gêm yw'r gêm ac y dylai pawb ymgynnull y tu allan am ryw bum munud o fyfyrdod er cof am Mike.

'Diwrnod hapus'

"Wedyn dylwn ni fynd i wylio'r gêm, ac ennill y gêm er cof amdano."

Dywedodd y byddai dychwelyd i Wembley yn anodd i nifer o gyfeillion Mr Dye.

"Ond dwi am iddo fod yn ddiwrnod hapus. Mae pethau yn symud yn eu blaenau a byddai Mikey eisiau i ni gael diwrnod da."

Roedd Mr Dye, tad i dri, yn gefnogwr pybyr i Gaerdydd.

Bu farw yn yr ysbyty ar ôl cael dwrn i'w ben y tu allan i Giât C yn Stadiwm Wembley ar Fedi 6.

Dedfrydwyd Ian Mytton, 41 oed o Redditch, Sir Caerwrangon, i garchar am dair blynedd am ddynladdiad Mr Dye o Drelái, Caerdydd.

Straeon perthnasol