Stockport 1-0 Wrecsam

Stockport 1-0 Wrecsam

Camgymeriad gan y golwr Joslain Mayebi roddodd fuddugoliaeth annisgwyl i Stockport County.

Cododd Mayebi i ddelio gyda chic gornel Danny Rowe ond pwniodd y bêl i mewn i'w rhwyd ei hun.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Wrecsam pan anfonwyd Jay Harris bant o'r cae yn gynnar yr ail hanner.

Mae Wrecsam nawr bum pwynt y tu ôl i Fleetwood ar frig y gynghrair.

Northwich 2-3 Casnewydd

Mae Casnewydd wedi cyrraedd rownd gynderfynol Tlws yr FA ar ôl brwydro nôl o fod 2-0 i lawr yn erbyn Northwich Victoria ym Macclesfield.

Roedd Ian Kearney wedi rhoi Northwich ar y blaen wedi 36 munud a dyblodd Ryan Wade y fantais wedi 47 munud.

Ond yr eilydd Jake Harris sgoriodd ddwywaith wedi 59 a 84 munud, a Nat Jarvis sicrhaodd y fuddugoliaeth gyda munud ynn weddill.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Fleetwood 34 +43 79
2.WRECSAM 33 +39 74
3. Luton 33 +34 62
4. Southport 34 -3 58
5. Caer Efrog 33 +29 55
-----------------------------------------------------------------------------------------
16.CASNEWYDD 33 -8 33

Chwefror 27 2012