Torcalon i'r Adar Gleision yn Wembley

Steven Gerrard yn codi Cwpan Carling Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Steven Gerrard yn codi Cwpan Carling

Caerdydd 2-2 Lerpwl (Lerpwl yn ennill 3-2 wedi ciciau o'r smotyn).

Fe wnaeth Caerdydd golli o giciau o'r smotyn yn rownd derfynol ddramatig a llawn tensiwn Cwpan Carling yn Wembley ddydd Sul, gan fethu â choroni penwythnos hynod gofiadwy i fyd y campau yng Nghymru.

Aeth y gêm yr holl ffordd i giciau o'r smotyn, gydag Anthony Gerrard yn methu gyda'r gic allweddol.

Dywedodd Malky Mackay fod colli yn y fath fodd yn "boenus", ond ychwanegodd ei fod yn "falch iawn o'm chwaraewyr".

Fe wnaeth Lerpwl reoli'r chwarter awr agoriadol, ac fe darwyd y trawst gan ergyd Glen Johnson ar ôl munud yn unig o chwarae.

Mason

Ond er i Lerpwl fwynhau y rhan fwyaf o feddiant, fe aeth Caerdydd ar y blaen ar ôl 18 munud.

Roedd peniad amddiffynnwr Lerpwl, Martin Skrtel yn un wael, gan ganfod Kevin McNaughton ar yr asgell dde.

Daeth yntau o hyd i Kenny Miller, ac roedd ei bas gelfydd i mewn i'r cwrt cosbi i Joe Mason wedi galluogi yntau i rwydo yn gelfydd o wyth llath - ei wythfed gôl o'r tymor.

Cafwyd cyfle gwych i Lerpwl wedi 42 munud ar ôl gwaith da gan yr asgellwr Stewart Downing. Fe wnaeth yntau troi Kevin McNaughton i chwith ac i'r dde cyn croesi i Jordan Henderson.

Fe fethodd i daro'r bêl yn llwyr cyn i Steven Gerrard ergydio dros y trawst o 20 llath.

Daeth cyfle gorau Lerpwl yn yr hanner cyntaf ar ôl cic rydd wych gan Steven Gerrard ond fe aeth peniad Daniel Agger o chwe llath yn syth i ddwylo diolchgar y golwr Tom Heaton. 1-0 i Gaerdydd ar yr egwyl.

Dan warchae

Roedd Caerdydd dan warchae ar ddechrau'r ail hanner, gan wrthsefyll ton ar ôl ton o ymosodiadau, gyda Heaton yn arbed ergyd gan Luis Suarez ar ôl i yntau ddwyn y bêl oddi ar Mark Hudson.

Daeth ymosodwr Lerpwl a Chymru, Craig Bellamy - cyn gapten Caerdydd - oddi ar y fainc ar ôl 57 munud, a chafodd dderbyniad gwresog gan bawb yn y stadiwm. Sefyllfa ryfedd.

Yn haeddiannol, daeth Lerpwl yn gyfartal ar ôl 59 munud, pan ddaeth peniad Luis Suarez oddi ar y postyn, gyda Martin Skrtel yn ymateb yn fwyaf cyflym i ergydio heibio Tom Heaton.

Cafodd Kenny Miller gyfle euraidd wedi 87 munud o wyth llath ond fe ergydiodd dros y trawst. Roedd rhaid mynd i amser ychwanegol, a hynny am y pumed tro i Gaerdydd yn y gystadleuaeth y tymor hwn.

Dramatig

Lerpwl oedd yn edrych yn fwyaf peryglus yn yr hanner awr ychwanegol, gyda Craig Bellamy yn dod yn agos ar ôl rhediad da, ond yr ergyd yn hwylio heibio'r cornel pellaf.

Torrwyd calonnau cefnogwyr Caerdydd gan yr eilydd Dirk Kuyt wedi 108 munud. Cafodd ei ergyd gyntaf ei rhwystro, ond cafodd ail gyfle gan daranu'r bêl heibio'r golwr.

Gwrthododd Caerdydd ag ildio ac ar ôl cic gornel dda, ymatebodd Ben Turner i rwydo yn ddramatig wedi 117 munud.

Yn loteri ciciau o'r smotyn, arbediodd Heaton gic capten Lerpwl Steven Gerrard, ond fe darodd Kenny Miller y postyn.

Ond er syndod fe wnaeth Charlie Adam, sy'n cymryd ciciau o'r smotyn yn aml i Lerpwl, ergydio ymhell o'r gôl.

Ond fe wnaeth Rudy Gestede hefyd daro'r postyn ac Anthony Gerrard yn ergydio heibio'r gôl.

Ymdrech ddewr gan yr Adar Gleision, gan golli yn y modd mwyaf creulon.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Joe Mason yn sgorio gôl gyntaf Caerdydd

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.