Stoke 2-0 Abertawe

Matthew Upson yn agor y sgorio dros Stoke Image copyright Getty Images
Image caption Matthew Upson yn agor y sgorio dros Stoke

Peniadau gan Matthew Upson a Peter Crouch roddodd fuddugoliaeth bwysig i Stoke ddydd Sul.

Fe wnaeth Upson lywio peniad Matthew Etherington heibio'r golwr Gerhard Tremmel ar ôl 24 munud, ag yntau yn chwarae dros Abertawe am y tro cyntaf.

Dyblwyd y fantais gan Crouch pan gyrhaeddodd tafliad hir gan Ryan Shotton.

Fe wnaeth Steven Caulker o Abertawe daro'r trawst ond Stoke gafodd y triphwynt pwysig.

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Man City 26 +48 63
2. Man United 26 +37 61
3. Tottenham 26 +21 53
4. Arsenal 26 +16 46
-----------------------------------------------------------------------------------------
14.ABERTAWE 26 -6 30