Capten Cymru i golli gêm goffa Gary Speed

Aaron Ramsey a Gary Speed Image copyright Other
Image caption Gary Speed ddewisodd Aaron Ramsey yn gapten Cymru

Fe fydd capten tîm pêl-droed Cymru, Aaron Ramsey, yn colli'r gêm gyfeillgar yn erbyn Costa Rica nos Fercher, gêm goffa Gary Speed.

Mae chwaraewr canol cae Arsenal wedi anafu ei ffêr.

Fe adawodd y cae wrth i'w dîm golli o 2-0 yn erbyn Sunderland yng Nghwpan yr FA ac nid oedd yn chwarae ym muddugoliaeth Arsenal o 5-1 yn erbyn Tottenham Hotspur ddydd Sul.

Y ffefryn i fod yn gapten ar noson emosiynol yw Craig Bellamy, cyfaill agos Speed.

Mae 'na amheuaeth hefyd am gôl-geidwad Birmingham, Boaz Myhill.

Speed ddewisodd Ramsey'n gapten ym mis Mawrth 2011 ac mae'r chwaraewr 21 oed wedi helpu Cymru i godi o safle 113 yn y byd i'r 50 ucha.

Enillodd Speed bedair o'r pum gêm ddiwethaf wrth y llyw cyn ei farwolaeth ym mis Tachwedd 2011.

Ym mis Ionawr cafodd Chris Coleman ei benodi yn rheolwr newydd Cymru.

Mae wedi dweud nad yw eisiau "newid llawer" wrth barhau gyda Ramsey fel capten.

Ymddeoliad?

Petai Bellamy yn chwarae nos Fercher, hwn fydd ei 68fed cap ac o bosib ei ymddangosiad olaf ar y llwyfan rhyngwladol.

Image copyright Other
Image caption Mae'n bosib mai Craig Bellamy fydd y capten nos Fercher

Mae'r dyn 32 oed o Gaerdydd wedi dweud ei fod yn ystyried ymddeol o'r gêm ryngwladol er bod Coleman wedi trafod ymestyn ei gyfnod hyd ddiwedd rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.

Mae wedi sgorio 19 o goliau dros Gymru,.

Y gêm yn erbyn Costa Rica fydd y gyntaf i Coleman fel rheolwr er mai Osian Roberts fydd yng ngofal y tîm nos Fercher.

Fe fydd Cymru yn cychwyn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2014 gyda'r gemau rhyngwladol ym mis Medi yn erbyn Gwlad Belg.

"Does 'na ddim llawer o amser i baratoi tan fis Medi," meddai Roberts.

"Dim ond 10 neu 11 diwrnod o waith paratoi sydd ganddon ni fel tîm rheoli.

"Mae'r dyddiau efo'n gilydd yn allweddol a rhaid elwa gymaint â phosib.

"Mae hon nos Fercher yn gêm goffa i Gary oedd yn gwbl broffesiynol ac fe fyddai am i ni fwrw ymlaen gyda'r gêm."

Fe fydd Cymru hefyd yn chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico yn Efrog Newydd ar Fai 27 ac yng Nghymru yn erbyn Bosnia-Herzegovina ar Awst 15 cyn y gemau rhagbrofol.

Carfan Cymru ar gyfer Gêm Goffa Gary Speed yn erbyn Costa Rica yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fercher Chwefror 29 2012:

Wayne Hennessey (Wolverhampton Wanderers), Boaz Myhill (West Bromwich Albion ond ar fenthyg gyda Birmingham), Lewis Price (Crystal Palace), Darcy Blake (Caerdydd), James Collins (Aston Villa), Danny Gabbidon (Queens Park Rangers), Chris Gunter (Nottingham Forest), Adam Matthews (Celtic), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe), Joe Allen (Abertawe), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Jack Collison (West Ham United), Andrew Crofts (Norwich), David Edwards (Wolverhampton Wanderers), Joe Ledley (Celtic), Hal Robson-Kanu (Reading), David Vaughan (Sunderland), Craig Bellamy (Lerpwl), Robert Earnshaw (Caerdydd), Steve Morison (Norwich), Sam Vokes (Wolverhampton Wanderers ond ar fenthyg gyda Brighton & Hove Albion).

Wrth gefn: Jason Brown (Aberdeen), Danny Collins (Stoke City ond at fenthyg gyda Ipswich), Neal Eardley (Blackpool), Adam Henley (Blackburn), Craig Morgan (Preston), Ashley Richards (Abertawe), Rhoys Wiggins (Charlton Athletic), David Cotterill (Barnsley), Andy Dorman (Crystal Palace ond ar fenthyg gyda Bristol Rovers), Brian Stock (Doncaster), Jermaine Easter (Crystal Palace), Ched Evans (Sheffield United).

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.