Chwarel: Cwest bachgen 14 oed

Chwarel Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Yn ôl pobl leol, mae nifer o ddamweiniau wedi bod dros y blynyddoedd diwetha'.

Cafodd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol ei chofnodi ar fachgen 14 oed wnaeth syrthio mewn hen chwarel yn ardal Prestatyn, Sir Ddinbych

Clywodd y cwest fod James Beck a bachgen arall wedi mynd i chwarae yn y chwarel yng Ngallt Melyd yn Hydref 2011.

Dywedodd y Crwner Cynorthwyol Kirit Champaneria fod James, disgybl yn Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi syrthio rhwng 40-60 troedfedd.

Roedd bachgen arall, na chafodd ei enwi yn ystod y gwrandawiad, wedi dweud wrth yr heddlu mai'r peth cyntaf oedd o'n gwybod am y digwyddiad oedd bod dwy ferch yn gweiddi arno gof James wedi syrthio.

Bu farw James o anafiadau difrïol i'w ben.

Dywedodd llystad James, Gary Jones, o Brestatyn fod y chwarel yn gyrchfan poblogaidd i bobl ifanc.

Roedd ef ei hun wedi chwarae yna.

Wrth gofnodi ei reithfarn dywedodd Mr Champaneria ei fod yn ymwybodol fod gwahanol asiantaethau wedi bod yn ystyried sut i rwystro damwain o'r fath yn y dyfodol.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.