Charteris yn dychwelyd i Gymru

Luke Charteris Image copyright Huw Evans picture agency

Daeth hwb i obeithio tîm rygbi Cymru o gipio'r Gamp Lawn wrth i Luke Charteris ymuno gyda'r garfan ar gyfer y ddwy gêm olaf.

Chwaraeodd y clo ei gêm gyntaf ers Cwpan y Byd i'r Dreigiau yn erbyn Munster nos Wener yn dilyn cyfnod allan gydag anaf i'r arddwrn.

Arhosodd ar y cae am yr 80 munud llawn gan roi dewis arall i hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, cyn iddo gyhoeddi'r tîm fydd yn wynebu'r Eidal yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Bydd y tîm yn cael ei gyhoeddi am 1:00pm ddydd Mawrth.

Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru fod tocynnau ar ôl ar gyfer y gêm yn erbyn Yr Eidal.

Eisoes mae pob tocyn ar gyfer y gêm olaf yn erbyn Ffrainc wedi eu gwerthu, ac mae dros 60,000 wedi eu gwerthu ar gyfer gêm y penwythnos yma.