Ysgol Glyndyfrdwy yn cau ym mis Awst

Cyngor Sir Ddinbych Image copyright bbc
Image caption Mae Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu gweithio gyda staff a rhieni'r ysgol

Bydd Ysgol Glyndyfrdwy yn Sir Ddinbych yn cau ar Awst 31 eleni wedi adolygiad i addysg gynradd yn ardal Edeirnion o'r sir.

Mae'r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru yn dod ar ôl cyfnod ymgynghorol o dri mis a ddechreuodd ym mis Tachwedd.

Ers hynny daeth 16 o lythyrau yn gwrthwynebu i law ynghyd â deiseb ag arni 229 o enwau yn erbyn cau'r ysgol.

Oherwydd y gwrthwynebiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych y byddai'n rhaid i weinidogion wneud y penderfyniad terfynol.

Fe gafodd athrawon a rhieni plant yn yr ysgol wybod ar Fawrth 2 y byddai'r disgyblion yn cael eu trosglwyddo i Ysgol y Gwernant, Llangollen.

'Blaenoriaeth'

"Mae'n flaenoriaeth nawr i'r Cyngor weithio gyda staff a rhieni y bydd y penderfyniad yma'n effeithio arnyn nhw," meddai datganiad ddydd Llun gan Gyngor Sir Ddinbych.

"Rydym wedi ymgynghori gyda phawb sydd â diddordeb ar bob cam o'r broses faith yma."

Does dim penderfyniad wedi ei wneud eto am gynllun arall i greu ysgol ardal cyfrwng Cymraeg i wasanaethu cymunedau Cynwyd a Llandrillo o fis Medi 2012 gan symud i un safle yng Nghynwyd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.