Cynghorau'n 'gorfod benthyca £256m' oherwydd toriadau

Arian Image copyright bbc
Image caption Amcangyfri' y galla'r cyfanswm ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol fod yn £256 miliwn

Mae 'na awgrym fod cynghorau Cymru wedi cynyddu'r cyfanswm y maen nhw yn ei fenthyg hyd at 80% yn ystod y flwyddyn ddiwetha'.

Yn y flwyddyn ariannol hyd at Ebrill 2011, roedd y cyfanswm yr oedd awdurdodau wedi ei fenthyca' yn £144 miliwn.

Ond, gyda'r wasgfa ariannol a thoriadau mewn gwariant cyhoeddus, mae 'na amcangyfri' y galla'r cyfanswm ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol fod yn £256 miliwn.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod benthyca'n dal i fod ar lefel hanesyddol o isel.

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cefnogi cynghorau sy'n gweithredu o fewn "cod benthyca cynghorus".

Dywedodd Steve Thomas, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod nifer o gynghorau'n dal i fod o fewn eu gallu benthyca er gwaetha'r cynnydd diweddar.

Gall awdurdodau lleol fenthyg arian mewn dwy ffordd - trwy grantiau gan gyrff fel Llywodraeth Cymru, neu fenthyca heb gefnogaeth, sy'n golygu bod y cynghorau'n gorfod talu'r arian yn ôl yn debyg i dalu morgais.

Yr ail fath o fenthyca, yn ôl y Gymdeithas Llywodraeth Leol, sy'n debygol o gynyddu'n sylweddol.

Addysg

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Ellis Roberts fu'n sôn mwy wrth Nia Thomas ar raglen y Post Cynta fore Mawrth.

Ond mae'r gymdeithas yn mynnu nad oes 'na enghreifftiau bod y math yma o fenthyca wedi mynd allan o reolaeth.

Mae'r darogan ar gyfer gwario cyfalaf y cynghorau yn £998 miliwn ar gyfer 2011/12, sydd ychydig yn uwch nag yn 2010/11.

Dywed y gymdeithas fod y gwariant cyfalaf wedi gostwng 20% yn ystod 2011/12 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Yn 2012/13, mae'r gymdeithas yn dweud y bydd 'na ostyngiad o 7.4%, gyda gostyngiad pellach o 11.5% yn 2013/14.

Yn ôl y gymdeithas, mae disgwyl i'r gyfran o fenthyciadau heb gefnogaeth godi £112 miliwn, neu bron i 80% - o £144 miliwn yn 2010/11 i £256 miliwn yn 2011/12.

Mae'r gwariant mwyaf yn mynd ar addysg, tai a phriffyrdd.

Roedd bron i chwarter y gwariant cyfalaf yn 2011/12 wedi dod o fenthyca heb gefnogaeth - mae hynny bron yn chwarter biliwn o bunnoedd.

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru, mae'r rhan fwyaf o'r arian yn cael ei fenthyca oddi wrth gorff sy'n rhan o'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus.

Mae'r holl fenthyciadau ar gyfer gwariant cyfalaf.

Asedau

Dywed y gymdeithas fod "benthyca cynghorus" - sef y cod sy'n rheoli benthyca heb gefnogaeth ar gyfer awdurdodau lleol - yn golygu bod yn rhaid i'r benthyciadau fod yn fforddiadwy yn yr hirdymor.

Image copyright bbc
Image caption Mae'r arian yn cael ei wario ar bethau fel adeiladau ysgolion newydd

Roedd 'na gyfyngiad o'r blaen ond roedd hynny cyn cyflwyno'r "cod benthyca cynghorus".

Mae'n golygu bod yn rhaid i gynghorau fenthyca arian ar sail faint y maen nhw'n debygol o'i arbed mewn costau refeniw yn y dyfodol.

Er enghraifft, er mwyn cyfiawnhau adeiladu ysgol newydd byddai'n rhaid cau tair neu bedair o hen rai.

Byddai'r arbedion hirdymor fyddai'n dod o gynnal llai o adeiladau yn gwneud i fyny am y gost adeiladu.

Mae gan gynghorau nifer o opsiynau i wneud i fyny am ddiffyg mewn cyllid canolog.

Gallan nhw fenthyca - gan ddefnyddio beth sy'n cael ei alw'n "dalebau cyfalaf", sef gwerthu asedau'r cyngor - ond mae hynny'n anodd yn yr hinsawdd economaidd bresennol am fod y farchnad eiddo yn araf - neu gallan nhw ddefnyddio arian o gyllidebau refeniw.

Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod cynghorau wedi gorfod codi tua 44% o'r gwariant cyfalaf yn ystod 2011/12.

24% oedd y ffigwr yn 2009/10.

"Rydym yn croesawu ac yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio'r opsiynau ar gael iddynt i gefnogi buddsoddiad cyfalaf, gan gynnwys elwa o fenthyciadau heb gefnogaeth, cyn belled â'u bod yn gweithredu o fewn y cod benthyca cynghorus," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.