Casnewydd 3-4 Braintree

Clwb Pêl-droed Casnewydd Image copyright Other

Casnewydd 3-4 Braintree

Er gwaethaf ymdrech arwrol gan ddeg dyn Casnewydd, maen nhw wedi colli eu gêm ddiweddaraf yn Uwchgynghrair Blue Square Bet.

Fe welodd Lee Minshull y cerdyn coch i'r tîm cartref wedi dim ond saith munud yn dilyn fler iawn ar Brad Quinton gan adael yr Alltudion i chwarae gyda deg dyn am 83 munud.

Yn ôl y disgwyl efallai, fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi 21 munud gyda chynnig cyntaf Britt Assombalonga o'r noson.

Ond o fewn 8 munud roedd Sam Foley wedi unioni'r sgôr gydag ergyd wych i gornel ucha'r rhwyd.

Mewn cyfnod prysur dros ben, daeth dwy gôl arall i'r ymwelwyr o fewn dau funud i'w gilydd - Sean Marks ac yna Ben Wright yn rhoi Braintree 3-1 ar y blaen.

Ond daeth Casnewydd yn ôl eto cyn yr egwyl gyda Gary Warren yn penio i'r rhwyd y tu mewn i'r cwrt chwech - 3-2 ar yr egwyl felly.

Pan sgoriodd Braintree eu pedwaredd wedi 49 munud - Assombalonga yn sgorio'i ail yn y gêm - roedd hi'n ymddangos ar ben yn llwyr.

Ond daeth un arall i Gasnewydd wrth i Ryan Charles sgorio trydedd i Gasnewydd yn yr amser ychwanegwyd am anafiadau.

Roedd hi'n rhy hwyr i dîm Justin Edinburgh gael un arall, ond fe fydd y rheolwr yn falch o ymdrech ei chwaraewyr mewn amgylchiadau anodd dros ben.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Fleetwood 36 +47 85
2. WRECSAM 34 +40 77
3. Luton 34 +36 65
4. Efrog 35 +31 61
5. Mansfield 35 +18 61
-----------------------------------------------------------------------------------------
17. CASNEWYDD 35 -9 34