Moch daear: Ffermwyr yn beirniadu gweinidog

Mae dwy chwaer sy'n amaethu yn Sir Benfro wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o fod yn "llwfr" wrth "osgoi" cyhoeddi canlyniad ymchwiliad a ddylid difa moch daear i leihau achosion o'r diciâu mewn gwartheg neu beidio.

Eisoes mae Angela a Helen Winsor wedi ysgrifennu llythyr cwyno at Brif Weinidog Cymru a'r Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths, i Swyddogion Iechyd Anifeiliaid ganmol eu hymdrechion i gadw'r diciâu o'u fferm, Pantysaeson.

Effeithiodd y clefyd ar fferm y ddwy chwaer rhwng Trewyddel a Llandudoch ac mae dros 100 o wartheg wedi gorfod cael eu difa dros y ddwy flynedd diwethaf.

Dywedodd Angela Winsor eu bod yn dal i aros am gyhoeddi canlyniadau adolygiad gwyddonol.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Iolo ap Dafydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn ymrwymedig i waredu'r clefyd

Flwyddyn yn ôl pleidleisiodd ACau o blaid cynnal cynllun i ddifa moch daear yn rhannau o orllewin a chanolbarth Cymru.

Ac fe gafodd yr adolygiad ei gynnal i asesu'r ffordd orau o ddelio â'r clefyd.

Roedd disgwyl i'r casgliadau gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai datganiad yn ystod mis Mawrth.

Mae Angela Winsor wedi honni nad yw'r llywodraeth yn gwneud digon.

Wrth wylio rhai o'r gwartheg ola' mewn perygl o gario'r diciâu, recordiodd neges arbennig ar gyfer y gweinidog.

"Dwi'n meddwl eich bod chi'n llwfr.

"Fe ddylech chi fod ar y buarth yn gweld y gwartheg yn cael eu difa a'r straen arnyn nhw.

"Mae oes o waith yn cael ei difa."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Garry Owen yn holi Paul Davies, Aelod Cynulliad Preseli Penfro

Fe wahoddodd y Prif Weinidog i'r fferm hefyd gan y dylai weld yr hyn oedd yn digwydd i'w bywoliaeth.

"Dyw e ddim yn gwneud dim. Dyw e ddim yn ein helpu ni na neb arall," meddai.

Brechu

Mae hi wedi honni bod y gwartheg wedi pasio profion gwaed a chroen ond eu bod yn cael eu cyfri fel "bod mewn perygl" ac yn gorfod cael eu symud o'r fferm.

Dros y ddwy flynedd diwethaf mae hi wedi ffermio pum buches yn annibynnol ar ei gilydd.

Dywedodd hefyd fod 'na ffens drydanol o amgylch adeiladau a'i bod wedi prynu cafnau dŵr uchel er mwyn ceisio atal y diciâu rhag lledu.

Ond mae tua 100 o anifeiliaid wedi gorfod cael eu difa.

Ar y llaw arall, mae Tony Sacco, sy'n ffermio yn Llechryd, yn credu mai brechu moch daear ac o bosib wartheg yn y dyfodol, yw'r ateb mwya' synhwyrol.

"Os yw'r diciâu ar foch daear, mae angen cael eu gwared nhw ond licen i eu bod nhw'n cael eu gadael os y'n nhw'n lân.

"Yr hyn sy'n fy mecso i yw os bydd moch daear glân yn cael eu difa fe fydd y rhai brwnt yn ôl yn eu lle nhw."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn derbyn bod achosion o'r diciâu yn effeithio'n sylweddol ar ffermwyr yng Nghymru.

"Mae'r gweinidog wedi ymweld â nifer o ffermydd a ffermwyr sydd wedi eu heffeithio gan hyn," meddai llefarydd.

'Dim rheswm'

Dywedodd eu bod wedi derbyn yr adroddiad ym mis Rhagfyr 2011 a bod gwaith ers hynny er mwyn ystyried yn llawn yr oblygiadau i raglen ddileu'r diciâu yng Nghymru.

Mae llefarydd materion gwledig Plaid Cymru, Llŷr Huws Gruffydd, wedi dweud: "Mae'n sefyllfa ryfedd iawn. Mae ganddyn nhw'r casgliadau ers misoedd a ddim yn rhoi rheswm nac esboniad o gwbl am yr oedi.

"Rhaid i rywun ddod i'r casgliad felly nad ydyn nhw wedi dod o hyd i'r dystiolaeth wyddonol y maen nhw'n chwilio amdani ac mai penderfyniad cwbl wleidyddol yw hyn.

"Yn y cyfamser, mae 'na tua 700 o wartheg yn cael eu difa yng Nghymru bob mis wrth i'r llywodraeth lusgo eu traed."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.