Wrecsam 2-0 Barrow

Image copyright Other

Wrecsam 2-0 Barrow

Gyda Fleetwood yn ennill nos Wener i agor bwlch o wyth pwyntn ar frig y tabl unwaith eto, roedd Wrecsam yn gwybod fod buddugoliaeth yn hanfodol wrth groesawu Barrow i'r Cae Ras.

Mae Barrow yn un o'r pum tîm sydd wedi curo Wrecsam y tymor hwn, ac roedd y rheolwr Andy Morrell yn gwybod na fyddai pethau'n hawdd.

Ond mae Danny Wright ar dân o flaen gôl ar hyn o bryd, a Wright roddodd Wrecsam ar y blaen gyda'i ben wedi 34 munud.

Roedd Barrow'n ymdrechu'n galed, ond i Wrecsam y ddaeth yr ail gôl hefyd wedi'r egwyl.

Fe allai pethau fod wedi mynd yn anodd i Wrecsam gan i Danny Wright weld y cerdyn coch wedi 70 munud am ymddygiad treisgar.

Ond llwyddodd Wrecsam i rwystro'r ymwelwyr rhag sgorio yn yr ugain munud olaf peryglus yna am driphwynt pwysig yn y frwydr am ddyrchafiad.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Fleetwood 37 +49 88
2. WRECSAM 36 +44 83
3. Luton 35 +34 65
4. Mansfield 36 +19 64
5. Efrog 36 +31 61
-----------------------------------------------------------------------------------------
18. CASNEWYDD 35 -9 34