Tân: Dyn yn yr ysbyty

Mae dyn yn yr ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ yn Wrecsam.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i Ffordd Caer am 8.24pm nos Sul.

Llwyddodd y diffoddwyr i atal y tân rhag lledu o'r ystafell fyw ond lledodd mwg drwy'r tŷ.

Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty yn dioddef o effeithiau anadlu mwg.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.