Talu teyrnged i gyfraniad gofalwyr maeth ond mae angen mwy

Gofalwyr maeth Gwynedd Image copyright Other
Image caption Bu noson ddathlu yn gyfle i dalu teyrnged i ofalwyr maeth Gwynedd

Wedi noson ddathlu i ofalwyr maeth Gwynedd mae hi wedi dod i'r amlwg bod 'na ddiffyg lleoedd ar gael drwy Gymru.

Rhoddwyd gwobrau arbennig i rai a oedd rhyngddyn nhw wedi rhoi 170 o flynyddoedd o wasanaeth.

Mae rhieni maeth yn cynnig cartref a chefnogaeth teulu i blant a phobl ifanc sydd mewn sefyllfa lle na all eu teulu eu hunain edrych ar eu holau am ba bynnag reswm.

Yn ôl ffigyrau Rhwydwaith Maethu Cymru mae yna ddiffyg o 750 o deuluoedd maeth dros Gymru gyfan.

Yng Ngwynedd mae angen cynnydd o 20 lleoliad ychwanegol bob blwyddyn dim ond er mwyn cynnal y gwasanaethau sylfaenol.

"Mae'r gofyn am leoliadau yn uwch na' allwn ni gynnig," meddai Mari Thomas, Rheolwr Tîm Maethu Cyngor Gwynedd.

Dywedodd bod galw arbennig am leoliadau ar gyfer grwpiau o frodyr a chwiorydd.

"Rydyn ni'n ceisio cadw brodyr a chwiorydd gyda'i gilydd yn ystod amser anodd iawn yn eu bywydau."

Dywed bod angen lleoedd ar gyfer mamau a'u plant gyda'i gilydd.

Mae nifer o wahanol sefyllfaoedd pan fydd mam a phlentyn angen lleoliad, er enghraifft pan fydd y fam yn ifanc iawn ac angen cymorth dros dro i addasu i'w sefyllfa.

Lansio ymgyrch

Mae'r Tîm Maethu wedi lansio ymgyrch 'Da ni'n well efo'n gilydd' er mwyn ceisio cynyddu'r nifer o leoliadau sydd ar gael.

Maen nhw wedi bod yn hysbysebu yn y wasg, ar fysus lleol ac wedi rhentu siop yng Nghaernarfon am gyfnod er mwyn cynnal sesiynau gwybodaeth ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn maethu.

Un a dderbyniodd gwobr arbennig wedi 10 mlynedd o gynnig cartref i blant oedd Lynne Errington.

Dechreuodd ei phrofiad hi yn y maes pan ofynnwyd iddi hi a'i gŵr edrych ar ôl eu hwyrion yn 2002.

Image caption Gall plant sydd angen maethu fod yn ifanc iawn neu yn eu harddegau

Ymhen amser daethant yn ofalwyr maeth iddyn nhw ac yn sgil y profiad yna fe wnaethon nhw benderfynu cynnig lleoedd i blant eraill.

"Mae disgwyl i chi wneud hyfforddiant yn flynyddol," meddai Ms Errington.

"Mae'r hyfforddiant rydych yn ei dderbyn yn wych.

"Rydych yn cael gymaint o gefnogaeth gan Gwasanaethau Cymdeithasol a gan ofalwyr maeth eraill.

"Rydym yn cael ein trin fel rhan o'r tîm."

'Teulu normal'

Dywedodd bod y berthynas gyda gofalwyr eraill wedi bod yn bwysig dros ben.

"Dyma bobl na fyddem ni erioed fod wedi cwrdd â nhw ond rydym nawr wedi dod yn ffrindiau mawr."

Ychwanegodd mai gweld gwahaniaeth yn y plant pan oedd hi'n amser iddyn nhw symud ymlaen oedd uchafbwynt y profiad.

"I weld yr hyder sydd ganddyn nhw pan maen nhw'n ein gadael i gymharu â phan gyrhaeddon nhw - mae'n wych.

"Dwi ddim yn meddwl ein bod ni'n ddim byd arbennig, teulu normal ydyn ni," meddai.

Un arall oedd yn cael ei wobrwyo am 10 mlynedd o wasanaeth oedd Stephen Phillips.

Mae ef a'i wraig wedi maethu 80 o blant yn y cyfnod yna, rhai am nifer fach o ddiwrnodau ac eraill am dros flwyddyn.

Mae Mr Phillips yn dod o deulu mawr ac wedi arfer â chael plant o'i amgylch.

Wedi i'w plant nhw dyfu penderfynodd ef a'i wraig gynnig lle yn eu cartref i blant eraill.

"Mae'n gallu bod yn waith caled," meddai.

"Mae pob plentyn yn dod gyda phroblemau gwahanol ond rydych chi'n gwybod eich bod yn gwneud rhywbeth gwerth chweil."

Mae Mr Phillips yn cynnig cartref iaith Gymraeg a dywedodd bod angen mwy o gartrefi tebyg.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.