Fulham 0-3 Abertawe

Gylfi Sigurdsson Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Gylfi Sigurdsson yn dathlu ar ol sgorio.

Mae Abertawe wedi codi i'r wythfed safle yn yr Uwchgynghrair ar ôl buddugoliaeth ysgubol oddi cartref yn erbyn Fulham.

Roedd yna ddwy gol i Gylfi Sigurdsson wrth i'r Elyrch sicrhau eu trydedd fuddugoliaeth yn olynol.

Sgoriodd Sigurdsson gyda pheniad i roi'r ymwelwyr ar y blaen ar ôl cyffyrddiad crefftus gan Scott Sinclair.

Sgoriodd Sigurdsson ei ail ar ôl yr egwyl yn dilyn pas Wayne Routledge.

Joe Allen sgoriodd y drydedd gydag ergyd o 18 llath.

Abertawe oedd yn rheoli'r chwarae yn llwyr ar ôl yr egwyl.

Hwn oedd eu pedwaredd fuddugoliaeth oddi cartref ac mae mwy na heb yn rhoi taw ar unrhyw son o beidio ag aros yn yr Uwchgynghrair

TABL YR UWCHGYNGHRAIR
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Man United 28 +41 67
2. Man City 28 +49 66
3. Tottenham 28 +18 53
4. Arsenal 28 +18 52
-----------------------------------------------------------------------------------------
8. ABERTAWE 29 0 39

Straeon perthnasol