Cyllideb: '42,000 ddim yn talu treth'

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Araith: Pobl ar y raddfa isaf yn dechrau talu trethi ar ôl ennill £9,205

Yn ei Araith Gyllideb dywedodd y Canghellor, George Osborne, y byddai trothwy'r lefel isaf o drethi yn codi.

Bydd pobl ar y raddfa isaf yn dechrau talu trethi ar ôl ennill £9,205 yn lle'r trothwy presennol, £8,105.

Mae disgwyl i hyn olygu y bydd 42,000 yng Nghymru yn cael eu rhyddhau rhag talu trethi'n llwyr ac y bydd 1,100,000 ar eu hennill.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y gyllideb yn "siomedig" ac nad oedd yn un ar gyfer "twf a swyddi".

Mae Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams, wedi dweud ei bod hi'n falch bod ei phlaid "wedi llwyddo i berswadio'r Canghellor i godi'r trothwy ar gyfer treth incwm bersonol".

Bydd budd-dal plant yn dod i ben i'r rhai sy'n ennill mwy na £60,000 y flwyddyn.

£11.7m

Oherwydd newidiadau gwario yn Whitehall bydd Llywodraeth Cymru'n derbyn £11.7m yn ychwanegol dros gfnod o dair blynedd.

Cyfeiriodd yr araith at wella gwasanaeth ffonau symudol ar hyd yr A470 rhwng Llandudno a Chaerdydd.

Hefyd bydd £12m ar gael i ardal Caerdydd i ddarparu band llydan tra chyflym.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud y bydd lwfans busnes yn cael ei sefydlu ar gyfer ardaloedd menter, gan gynnwys un yng Nglannau Dyfrdwy.

Dywedodd y Canghellor mai ei fwriad fyddai "gwobrwyo gwaith" a "rhyddhau miloedd o bobl rhag tlodi".

Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yna bump o ardaloedd menter yn cael eu sefydlu yng Nghymru.

Y pedair arall yw Ynys Môn, Caerdydd, Glyn Ebwy a Sain Tathan.

Amrywio

Mae ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i sefydlu ardaloedd tebyg ym Mhenfro a Thrawsfynydd.

Er bod gan Lywodraeth Cymru'r grym i sefydlu'r ardaloedd dim ond Llywodraeth San Steffan all amrywio'r lwfans busnes.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Bydd budd-dal plant yn dod i ben i'r rhai sy'n ennill mwy na £60,000 y flwyddyn.

Yn ei drydedd gyllideb dywedodd y Canghellor y byddai cyrff arolygu yn ystyried cyflwyno cyflog rhanbarthol ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus.

"Heddiw rydym yn cyhoeddi tystiolaeth y mae'r Trysorlys yn ei chyflwyno i'r cyrff arolygu.

"Bydd gan rai adrannau yr ospsiwn i symud i gytundebau lleol ar gyfer rhai gweision sifil."

Mae Jonathan Edwards AS, llefarydd Trysorlys Plaid Cymru, wedi beirniadu'r cynigion.

"Bydd hyn yn golygu toriadau mewn termau real i weithwyr yn y sector cyhoeddus.

'Gwarthus'

"Wrth wneud hyn o adran i adran maen nhw'n gobeithio lleihau unrhyw feirniadaeth."

Dywedodd fod record Llywodraeth San Steffan wrth ddelio â gweithwyr sector cyhoeddus yn "warthus" a bod 700,000 o swyddi wedi diflannu o fewn chwe blynedd.

Cyhoeddodd y Canghellor y byddai graddfa uchaf treth yn gostwng o 50c i 45c yn Ebrill 2013.

Pobl sy'n ennill dros £150,000 sy'n talu'r raddfa uchaf a'r gred yw y bydd y newid yn effeithio ar tua 4,000 o bobl yng Nghymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru'r Wrthblaid, Peter Hain: "Mae rhewi lwfans personol yn effeithio ar filoedd o bobl oedrannus yng Nghymru tra bod miliwnyddion yn mwynhau miloedd o bunnau o gyfoeth sydyn."

Straeon perthnasol