Archesgob Caergaint yng Nghymru

Dr Rowan Williams Image copyright Not Specified
Image caption Fe fydd Dr Williams yn ymweld â sawl lleoliad ar ei ymweliad

Fe fydd Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams, yn mynychu gwasanaeth ysgol fore Gwener.

Hefyd yn bresennol yn Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr, Aberdâr, fydd Dr Barry Morgan Archesgob Cymru.

Daw ymweliad Archesgob Caergaint ar ôl gwahoddiad personol gan ddisgyblion oedd wedi cwrdd â Dr Williams yn Abaty Westminster, Llundain, y llynedd.

Daw'r gwasanaeth ar ddechrau penwythnos o ddigwyddiadau yng Nghymru ar gyfer yr Archesgob sydd wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd ym mis Rhagfyr.

Mae o wedi bod wrth y llyw am 10 mlynedd.

Fe fydd yn ymgymryd â swydd newydd fel Meistr Coleg Madlen, Prifysgol Caergrawnt.

Dr Williams, 61 oed, yw'r 104ydd person i ddal y swydd, gan olynu y Dr George Carey.

Dywedodd Mason Morgan, prif fachgen yn Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr ei fod wedi cael "profiad anhygoel' wrth holi Dr Williams yn Llundain y llynedd.

"Roeddem yn gallu gofyn cwestiynau dwfn a chymhleth am yr eglwys ac ein ffydd a'n credoau," meddai.

Neuadd Chwaraeon

Dywedodd Dr Susan Mitchel, prifathrawes yr ysgol, fod yr ysgol gyfan "wrth eu bodd" gyda'r ymweliad.

Dywedodd y byddai'n "un o uchafbwyntiau fy mywyd personol a'm mywyd proffesiynol."

Dywedodd Jan Watkins, pennaeth astudiaethau crefyddol yr ysgol, fod pawb wedi cyffroi.

Bydd 960 o ddisgyblion, ynghyd â 50 aelod o staff yn gwrando ar y gwasanaeth yn y neuadd chwaraeon.

Image copyright Not Specified
Image caption Fe wnaeth Dr Williams dderbyn gwahoddiad i ymweld ag Ysgol Ioan Fedyddiwr

"Mae'n ddiwrnod mawr i'r ysgol ac roedd pawb eisiau bod yn rhan o'r achlysur," meddai.

Yn ddiweddarach dydd Gwener bydd Dr Williams yn traddodi darlith flynyddol Cymdeithas Waldo Williams yng Nghapel Pisgah, Llandysilio, Sir Benfro.

Ddydd Sadwrn bydd yn arwain gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ac yna yn siarad mewn lansiad o raglen Llenyddiaeth Cymru

Bydd Dr Williams yn pregethu yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf fore Sul cyn ymuno ag Archesgob Cymru i gynnal Gwasanaeth Cymraeg yn Eglwys Sain Ffagan, Trecynon.

Bydd ei daith yn dod i ben ddydd Llun pan fydd yn traddodi araith yn adeilad Pierhead ym Mae Caerdydd ar y pwnc be sy'n troi cymdeithas yn gymuned.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.