Cyhuddo dau wedi lladradau ym Mangor

Mae dau berson yn eu harddegau wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â chyfres o ladradau ym Mangor.

Mae'r ddau yn wynebu wyth cyhuddiad yr un.

Cafodd y ddau, sy'n 16 oed ac 17 oed, eu harestio wedi cyfres o ddigwyddiadau yn ardal Bangor Uchaf a chanol y ddinas nos Lun.

Mae'r ddau wedi eu cyhuddo o dri chyhuddiad o ladrad, pedwar cyhuddiad o geisio dwyn a chyhuddiad o ymosod.

Cafodd un aelod o'r cyhoedd ei anafu yn un o'r digwyddiadau, ond doedd yr anafiadau ddim yn ddifrifol.

Fe fydd y ddau yn ymddangos o flaen ynadon Caernarfon ddydd Mercher.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.