Cyhuddo dyn 28 oed wedi digwyddiad yng Nghaerdydd

Roedd y digwyddiad ger yr Orsaf Ganolog tua 7pm. Image copyright Other
Image caption Roedd y digwyddiad ger yr Orsaf Ganolog tua 7pm.

Mae dyn 28 oed wedi ei gyhuddo ar ôl digwyddiad yn ymwneud â thacsi yng nghanol Caerdydd nos Fawrth.

Mae'n wynebu wyth cyhuddiad i gyd - sef un o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, a saith o geisio achosi niwed corfforol difrifol.

Fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau.

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am wybodaeth.

Aed ag wyth dyn o Gaerdydd i'r ysbyty ar ôl y digwyddiad yn Stryd Wood ger Stadiwm y Mileniwm nos Fawrth.

Mae'r heddlu'n archwilio lluniau teledu cylch cyfyng ac yn gofyn am luniau oddi wrth unrhyw fusnes neu gartref lleol.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylai gysylltu gyda'r heddlu yng Nghaerdydd ar 029 2052 7420 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.