Arwyddion maes parcio anghywir yng Nghonwy

Maes parcio Morfa Bach, Conwy (llun gan dailypost.co.uk) Image copyright Other
Image caption Mae'r gair modur wedi ei gamsillafu ar y maes parcio

Mae cyngor sir wedi addo cywiro arwyddion anghywir a gafodd eu peintio ar dir un o'u meysydd parcio.

Image copyright Other
Image caption Bysiau ddylai barcio yma ym Maes Parcio Morfa Bach

Cafodd maes parcio Morfa Bach yn Gyffin, ger Castell Conwy, ei ailwynebu yn ddiweddar yn barod ar gyfer tymor yr ymwelwyr.

Mae un arwydd yn dweud "beiciau modus" yn Gymraeg yn lle beiciau modur ac mae'r arwydd Saesneg am fysiau yn dweud "coashes" yn lle coaches.

"Rydym yn ymwybodol o'r camgymeriadau ac fe fyddan nhw'n cael eu cywiro," meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Conwy.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.