Myfyriwr yn colli apêl yn erbyn dedfryd o garchar

Liam Stacey Image copyright PA
Image caption Fe wnaeth Liam Stacey gyfadde' i drosedd o dan y drefn gyhoeddus

Mae apêl myfyriwr yn erbyn dedfryd o garchar am wneud sylwadau ffiaidd â chymhelliad hiliol ar wefan Twitter wedi methu yn yr Uchel Lys yn Abertawe ddydd Gwener.

Dydd Mawrth cafodd Liam Stacey, 21 oed o Bontypridd, ei garcharu am 56 niwrnod ar ôl cyfadde' i wneud sylwadau ar y wefan am y pêl-droediwr Fabrice Muamba.

Roedd yr apêl yn yr Uchel Lys o flaen y barnwr Mr Ustus Wyn Williams gan eistedd yn Llys y Goron Abertawe.

Dywedodd y barnwr bod sylwadau Stacey yn "hynod o sarhaus".

"Does 'na ddim osgoi bod eich trosedd wedi ei wneud yng nghyd-destun gŵr oedd yn ddifrfiol wael.

"Roedd yn gwbl amlwg yn fuan iawn ei fod mewn cyflwr difrifol yn gorwedd yn ddiymadferth ar y cae ac fe wnaethoch chi gyhoeddi sylwadau hynod hiliol sydd yn hynod sarhaus".

Haeddu'r gosb

Dywedodd bod yr hyn gafodd ei ysgrifennu wedi derbyn ymateb cryf iawn ar y wefan a bod pobl wedi cysylltu â fo yn feirniadol o'r hyn ddywedodd.

"Wnaethoch chi ddim ymatal, yn hytrach fe wnaethoch chi ysgrifennu mwy o negeseuon ffiaidd," ychwanegodd y barnwr.

Image copyright Other
Image caption Fe wnaeth y pêl-droediwr gyhoeddi llun o'i hun yn yr ysbyty ar wefan Twitter

"Rydych chi'n haeddu cael eich cosbi.

"Drwy bledio'n euog fe wnaethoch chi gyfadde' bod 'na fwriad hiliol i'ch sylwadau."

Yn ystod y gwrandawiad 90 munud roedd Stacey yn ei ddagrau ar sawl achlysur yn ogystal â'i fam, Hayley gafodd ei chysuro gan ei gŵr, Neale.

Cafodd Stacey ei arestio wedi i ddefnyddwyr eraill y wefan hysbysu'r heddlu.

Daeth ei sylwadau ar ôl i bêl-droediwr Bolton Wanderers gael ei gludo i'r ysbyty wedi i'w galon stopio yn ystod y gêm rhwng Bolton a Tottenham Hotspur.

Roedd y ddau dîm yn cystadlu yn rownd gogynderfynol Cwpan yr FA ar Fawrth 17.

Mae'r chwaraewr 23 oed, yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty ac mae lluniau ohono yn gwenu wedi eu cyhoeddi ddydd Gwener.

Mae Stacey yn wynebu cael ei ddiarddel o Brifysgol Abertawe pan fydd yn cael ei ryddhau.

Mae o yn ei ail flwyddyn yno.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.