Moises Henriques yn barod am ei gêm gyntaf

Moises Henriques Image copyright Getty Images
Image caption Mae Moises Henriques yn chwaraewr amryddawn sydd wedi chwarae i New South Wales a'r Mumbai Indians

Mae'n debyg y bydd Morgannwg yn cynnig gêm gyntaf i'w bowliwr cyflym newydd Moises Henriques ddydd Sadwrn.

Bydd Morgannwg yn wynebu Prifysgol Rhydychen yn eu gêm gyntaf o'r tymor newydd ar gae The Parks.

Fe fydd y chwaraewr amryddawn o Awstralia yn cymryd lle Marcus North yn y garfan, gan na fydd yntau ar gael ar gyfer pum wythnos gynta'r tymor newydd.

Y tebygrwydd yw mai Stewart Walters a Gareth Rees fydd yn agor y batio i Forgannwg, ac mae'r ddau droellwr, Dean Cosker a Robert Croft, wedi eu henwi mewn carfan o 13.

Yn eu gêm gyfeillgar olaf, fe sicrhaodd Morgannwg gêm gyfartal gyda Chaint.

Wrth ymateb i gyfanswm Morgannwg o 263 yn eu batiad cyntaf, llwyddodd Caint i gyrraedd 310 am chwe wiced ar ddiwrnod ola'r gêm ddeuddydd.

Carfan Morgannwg v. Prifysgol Rhydychen - Dydd Sadwrn, Mawrth 31 - The Parks, Rhydychen :-

G Rees, S Walters, W Bragg, B Wright, J Allenby, M Henriques, M Wallace (capt), G Wagg, R Croft, D Cosker, H Waters, N James, M Reed.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.