Giorgio Chinaglia wedi marw yn 65 oed

Pele gyda Giorgio Chinaglia ym 1976 Image copyright AP
Image caption Giorgio Chinaglia a Pele oedd yn aelodau o dîm New York Cosmos ym 1976

Mae'r pêl-droediwr rhyngwladol Giorgio Chinaglia ddechreuodd ei yrfa gydag Abertawe wedi marw yn 65 oed.

Cafodd Chinaglia ei eni yn yr Eidal ond ei fagu yng Nghymru am fod ei rieni wedi symud i Gymru i chwilio am waith.

Dechreuodd chwarae yn broffesiynol gydag Abertawe ym 1964.

Lazio

Symudodd yn ôl i'r Eidal gan ymuno â Lazio ym 1969.

Chwaraeodd 14 o weithiau i'r Eidal a chynrychioli ei wlad yng Nghwpan y Byd ym 1974.

Ym 1976 symudodd i'r Unol Daleithiau a chwarae gyda sêr mawr y byd, gan gynnwys Pele, i dîm New York Cosmos a sgorio 262 o goliau.

Daeth yn llywydd tîm Lazio rhwng 1983-85 ac ar ôl ymddeol dychwelodd i'r Unol Daleithiau i fyw.

Bu farw yn ei gartref yn Florida.