Gwsasanaeth llygaid yn dod i ben yn HM Stanley

Ysbyty HM Stanley Image copyright BBC news grab
Image caption Mae Ysbyty HM Stanley wedi bod yn darparu triniaeth llygaid am bron i 60 mlynedd

Dywed swyddogion iechyd yng ngogledd Cymru fod newid i wasanaeth llygaid yn golygu y bydd uned newydd yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf wrth drin cleifion.

Mae'r gwasanaeth trin llygaid yn cael eu symud o Ysbyty HM Stanley yn Llanelwy i Ysbyty Abergele.

Yn ôl swyddogion iechyd, mae mwy o fodd i ehangu'r gwasanaeth yn y lleoliad newydd.

Mae'r uned yn darparu triniaeth frys ond fydd dim modd i gleifion gyrraedd yn ddirybudd.

Bydd angen i gleifion sydd angen triniaeth frys gysylltu â'r uned yn gyntaf.

Yr uned frys yn Glan Clwyd sy'n gyfrifol am ddarparu triniaeth brys y tu allan i'r oriau arferol.

Bydd yr uned newydd yn Abergele yn darparu gwasanaeth trin llygaid ar gyfer siroedd Conwy, Dinbych a'r Fflint.

Bu Ysbyty HM Stanley yn darparu triniaeth llygaid am bron i 60 mlynedd.

Bydd y llawdriniaethau olaf yn cael eu cynnal yna ddydd Iau.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.