Heol yn ail agor wedi damwain

Canolfan reoli Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Trodd y lori ar ei hochr ger pentref Blaenplwyf.

Mae'r A487 rhwng Aberystwyth ac Aberaeron wedi ail agor ar ôl bod ynghau am oriau oherwydd damwain rhwng lori oedd yn cario cyrff anifeiliaid a char.

Trodd y lori, oedd yn teithio o Lanbed i Stoke, ar ei hochr ger pentref Blaenplwyf.

Aed â gyrwr y car i'r ysbyty rhag ofn.