Titanic: Y cysylltiadau Cymreig

Y Titanic yn gadael Belfast Image copyright Public Record Office of Northern Ireland
Image caption Roedd 'Dai' Bowen wedi dweud bod y llong 'bron mor fawr â Threherbert'

Gan mlynedd ers un o drychinebau morwrol mwyaf erchyll y byd mae rhaglen ar S4C yn bwrw golwg ar y cysylltiadau Cymreig.

Mae'r rhaglen am suddo'r Titanic yn cyfeirio at Artie Moore, y dyn glywodd y negeseuon SOS yn ei sied yn Y Coed Duon - a'r ddau focsiwr o'r Cymoedd a'u breuddwyd o lwyddo yn y America.

Lowri Morgan sy'n cyflwyno hanes y llong darodd fynydd rhew a suddo ar ei siwrnai o Southampton i Efrog Newydd ar Ebrill 15, 1912. Bu farw 1,500.

Achubodd Harold Lowe o'r Bermo bedwar o bobl o'r dŵr rhewllyd cyn achub rhai oedd ar gwch achub oedd yn suddo.

Gwnaeth yn siŵr fod pawb yr oedd wedi ei achub yn cyrraedd llong gyfagos y Caparthia.

Wedi i Harold Lowe ddychwelyd i'r Bermo fe gafodd ei gyfarch gan 1,300 o bobl ac fe gyflwynwyd oriawr aur iddo.

Pencampwr

Bu farw yn 1944 ac mae wedi ei gladdu yn Llandrillo-yn-Rhos.

Image copyright Other
Image caption Lowri Morgan: Yn sylweddoli 'pa mor anhygoel yw'r cysylltiadau Cymreig.'

Dau Gymro a gollodd eu bywydau yn y drychineb oedd Dai Bowen a Leslie Williams, dau focsiwr â chytundeb i focsio yn America.

Yn ôl pob sôn, roedd 'na ddyfodol disglair i fod yr ochr arall i Fôr Iwerydd.

Roedd 'Dai' John Bowen, 26 oed, yn löwr o Dreherbert ac yn baffiwr proffesiynol.

Fe oedd pencampwr pwysau ysgafn Cymru ac roedd yntau a Leslie Williams yn deithwyr trydydd dosbarth ar y llong.

Gof o Donypandy oedd Leslie Williams, yn baffiwr proffesiynol pwysau bantam.

Roedd y ddau yn teithio i America i gymryd rhan mewn gornestau proffesiynol.

'Anhygoel'

Ysgrifennodd 'Dai' Bowen lythyr at ei fam ar Ebrill 11, 1912 gan ddweud: "Mae hon yn llong hyfryd, bron mor fawr â Threherbert."

Ni chafwyd hyd i gorff Dai Bowen ond cafwyd hyd i gorff Leslie Williams gan griw llong y Mackay Bennett ac fe gafodd ei gladdu yn nyfnder y môr ar Ebrill 22, 1912.

Image copyright Other
Image caption Cafodd Harold Lowe ei gyfarch gan 1,300 o bobl pan ddychwelodd i'r Bermo

"Mae pawb yn ymwybodol o drychineb y Titanic ond, wrth imi edrych yn ddyfnach ar y stori ac ar ddylanwad Cymru a'r Cymry ar daith y llong, sylweddolais ba mor anhygoel yw'r cysylltiadau Cymreig," meddai Lowri.

"Roedd y boneddigion a boneddigesau ar fwrdd y llong yn bwyta ar lestri arian ddaeth o Gymru ac roedd injans y Titanic yn cael eu pweru gan lo o Gymru.

"Boddodd Capten Edward Smith gyda'i long - ond does dim llawer o bobl yn gwybod fod gan ei deulu gysylltiadau â Chymru.

"Fe fyddwn ni'n dilyn trywydd straeon y Cymry chwaraeodd ran yn un o ddigwyddiadau mwyaf trychinebus y ganrif ddiwetha."

Cymry'r Titanic, S4C, 8.25pm, nos Lun.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC