Morgannwg yn herio Sir Gaerlŷr

Mark Wallace Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mark Wallace yw capten Morgannwg eleni

Bydd Morgannwg yn herio Sir Gaerlŷr yn eu gêm gyntaf yn ail adran y bencampwriaeth ddydd Iau.

Bydd y chwaraewr amryddawn o Awstralia, Moises Henriques, yn chwarae ei gêm gyntaf yn y bencampwriaeth.

Mae Henriques wedi cymryd lle Marcus North yn y garfan, gan na fydd yntau ar gael ar gyfer pum wythnos gynta'r tymor newydd.

Ni fydd y bowlwyr James Harris a Will Owen yn chwarae oherwydd anafiadau.

Dim ond unwaith mae Morgannwg wedi ennill yn Grace Road er 1986.

"Ein nod yw adennill y diwylliant ennill sydd wedi bod ar goll yn ystod y blynyddoedd diwethaf," meddai capten Morgannwg, Mark wallace.

"Rydym yn bwriadu perfformio'n dda ac ennill y gêm yn erbyn Sir Gaerlŷr."

Carfan Sir Gaerlŷr: Boyce, Smith, du Toit, Sarwan, Cobb, White, Eckersley (wic), Henderson, Naik, Hoggard (c), Malik, Joseph, Wyatt.

Carfan Morgannwg: Rees, Walters, Bragg, Wright, Allenby, Henriques, Wallace (c, wic), Wagg, Croft, Cosker, Waters, Reed.

Sgôr diweddaraf: Sir Gaerlŷr v Morgannwg

Mwy i ddilyn.