Enwebiadau ar gyfer etholiadau lleol Cymru wedi cau

  • 4 Ebrill 2012
Blychau pleidleisio
Fe ddylai rhestr o ymgeiswyr gael ei chyhoeddi erbyn Ebrill 10

Mae'r enwebiadau ar gyfer ymgeiswyr etholiadau llywodraeth lleol Cymru ar Fai 3 wedi cau.

Roedd rhaid i'r enwau fod wedi cyrraedd erbyn hanner dydd ddydd Mercher.

Mae'n rhaid i gynghorau gyhoeddi rhestr ymgeiswyr erbyn Ebrill 10.

Fe fydd 'na etholiadau mewn 21 o'r 22 cyngor sir yng Nghymru.

Does 'na ddim etholiad yn Ynys Môn gan eu bod wedi cael eu gohirio am flwyddyn.

Mae Cyngor Ynys Môn yn cael ei redeg gan gomisiynwyr a benodwyd gan Weinidog Llywodraeth Leol Cymru Carl Sargeant.

Cafodd yr etholiadau lleol diwethaf eu cynnal yn 2008.

Fe fydd dros 1,200 o gynghorwyr yn cael eu hethol.

Fe fydd y cynghorwyr yn cael eu hethol am bum mlynedd yn hytrach na phedair gan fod Mr Sargeant wedi cyhoeddi eu gohirio er mwyn osgoi cael sawl etholiad gwahanol ar yr un pryd.