Brive 15-11 Scarlets

Liam Williams (Scarlets) yn cael ei daclo Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Liam Williams sgoriodd unig gais y gêm

Collodd y Scarlets eu gornest yn erbyn Brive yn rownd yr wyth olaf Cwpan Her Amlin nos Sul.

Cefnwr y Scarlets, Liam Williams, sgoriodd unig gais y gêm ond roedd cicio gwych canolwr Brive, Riaan Swanepoel, yn ddigon i sicrhau presenoldeb y Ffrancwyr yn y rownd gynderfynol.

Roedd y sgôr yn gyfartal ar yr egwyl wedi i Swanepoel a Stephen Jones llwyddo â dwy gic gosb yr un yn Stade Amédée-Domenech.

Ond roedd y tîm cartref chwe phwynt ar y blaen ymhen dwng munud o'r ail hanner ar ôl i Swanepoel lwyddo â dwy gic gosb arall.

Cwpan Heineken

Ond cafodd yr ymwelwyr gyfle i daro nôl yn fuan wedi hynny ar ôl i faswr Brive, Shane Geraghty, gael ei anfon i'r gell gosbi am dacl beryglus.

Manteisiodd y Scarlets â'r cyfle pan diriodd Liam Williams yn dilyn gwaith da gan Rhys Priestland, oedd wedi cymryd lle Jones fel maswr yr ymwelwyr.

Methodd Priestland â'r trosiad fyddai wedi rhoi'r Scarlets ar y blaen ond er i'r tîm o Orllewin Cymru frwydro'n galed fe fethon nhw groesi llinell Brive eto.

Sicrhaodd Swanepoel fuddugoliaeth i'r tîm enillodd Cwpan Heineken ym 1997 pan giciodd ei bumed gic gosb o'r gêm.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.