Gwasanaeth wedi gwaith adnewyddu sylweddol ar eglwys yn Aberdâr

Eglwys Cwmbach ger Aberdâr Image copyright Other
Image caption Cafodd £140,000 ei wario yn adnewyddu'r eglwys

Mae eglwys 130 oed yn mynd i glywed y clychau yn canu unwaith eto ar ôl gwaith adnewyddu.

Dydi clychau Eglwys Mair Magdalen yng Nghwmbach ger Aberdâr ddim wedi bod yn canu am 15 mlynedd.

Mae gwaith adnewyddu gwerth £140,000 wedi bod am chwe mis.

Nos Iau fe fydd 'na wasanaeth yn yr eglwys am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr.

Yn ogystal ag ailosod y clychau mae'r eglwys wedi cael to newydd, wedi cael ei hailbeintio a'i hadfer.

Cafwyd grantiau a chynhaliwyd digwyddiadau i godi arian.

'Cyflawniad gwych'

Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, sy'n arwain y gwasanaeth am 7.30pm nos Iau.

"Mae'n gyflawniad gwych i gymuned weddol fechan sydd ddim yn gyfoethog," meddai.

"Mae wir yn achos dathlu."

Dywedodd Archddeon Morgannwg, Chris Smith, yr offeiriad plwy yno, fod yr eglwys ar gyfer y gymuned gyfan.

"Mae pobl wedi cyfrannu eu hamser yn hael er mwyn sicrhau bod y prosiect yn cael ei gwblhau.

"Dwi'n mawr obeithio y bydd pobl yn ymuno gyda ni a'r Archesgob i ddathlu ein llwyddiant."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.