Ceidwadwyr am roi'r pŵer yn nwylo'r etholwyr

Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan
Mae'r Ceidwadwyr mewn llywodraeth glymblaid yn San Steffan

Wrth lansio eu hymgyrch etholiadau lleol, mae'r Ceidwadwyr wedi dweud bod angen i bŵer gael ei roi yn ôl yn nwylo'r bobl.

Fe gafodd y maniffesto ei lansio yng Nghasnewydd.

Mae'r blaid wedi galw am ddiwygio'r modd y mae ysgolion yn cael eu hariannu, rhewi treth y cyngor ac wedi dweud na ddylai cwmnïau bach dalu treth busnes.

Fe fyddai cynghorau Ceidwadol, meddai, yn blaenoriaethu clirio sbwriel a baw cŵn ac yn adnewyddu ffyrdd.

Ar hyn o bryd mae'r Ceidwadwyr yn amddiffyn 160 o seddi yn yr etholiad ar Fai 3 mewn 21 o'r 22 awdurdod lleol.

Does dim etholiad yn Ynys Môn gan fod yr etholiadau yno wedi eu gohirio am flwyddyn. Mae'r cyngor yn cael ei redeg gan gomisiynwyr.

Ail

Roedd y blaid yn ail i Lafur o ran canran y bleidlais yn etholiadau lleol yn 2008 ond gallai toriadau gwariant llywodraeth glymblaid San Steffan effeithio ar rai canlyniadau.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, bod "dewis clir ar Fai 3".

"Treth gyngor uwch o dan Lafur neu is o dan Geidwadwyr.

"Ni yw'r prif wrthwynebwyr i Lafur yng Nghymru a dydyn ni ddim yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol.

"Ein greddf yw rhoi grym yn nwylo pobol, gan roi mwy o ddewis a rhyddid iddyn nhw i redeg eu trefi, pentrefi a'u cymunedau a chreu'r ffyniant sydd ei angen yn ddirfawr yng Nghymru".

Mae'r blaid wedi galw ar Lywodraeth Cymru i helpu cynghorau i rewi trethi fel mae'r glymblaid yn San Steffan wedi ei wneud.

Dywedodd gweinidogion Llywodraeth Cymru fod bil cyfartaledd Band D yn llai nag yn Lloegr.

Fe wnaeth Cyngor Mynwy, sy'n cael ei redeg gan y Ceidwadwyr, rewi trethi eleni.

Ym Mro Morgannwg, sydd hefyd yn cael ei reoli gan y blaid, mae treth Band D wedi codi o £923.85 i £940.05.

Mae'r blaid wedi addo cymryd camau yn erbyn fandaliaid a graffiti.

Dylai manylion gwariant unrhyw gyngor gael eu cyhoeddi, meddai, a dylid torri'n ôl ar gyflogau rhai uchelswyddogion.