QPR 3-0 Abertawe

Joey Barton gafodd un o goliau QPR Image copyright Getty Images
Image caption Joey Barton gafodd un o goliau QPR

Colli o dair gôl i ddim wnaeth Abertawe yn erbyn QPR oedd bedwar safle o waelod y tabl ar ddechrau'r noson.

Mae'r Elyrch yn aros yn 14 ac yn dal i chwilio am bwynt i groesi'r 40.

Mae QPR wedi codi un safle wedi eu buddugoliaeth gartref nos Fercher.

Fe wnaeth Joey Barton sgorio ar ôl dychwelyd i'r tîm eiliadau wedi'r ail hanner gychwyn.

O fewn 10 munud roedd Jamie Mackie wedi curo Michel Vorm gyda'r ail gôl wnaeth wyro oddi ar Angel Rangel cyn i Akos Buzsaky daro'r bêl o 25 llath.

Mae'r fuddugoliaeth i dîm Mark Hughes yn eu rhoi dau bwynt yn saff o'r tri gwaelod.

Dyma'r bedwaredd gêm i Abertawe golli o'r bron.

Wayne Routledge gafodd gyfle gorau'r ymwelwyr ond o 12 llath aeth hi dros y gôl.

Er bod Yr Elyrch wedi ennill cefnogwyr newydd drwy ddod a gwedd newydd i'r Uwchgynghrair, roedden nhw'n edrych yn flinedig.

Roedden nhw'n awchu am fuddugoliaeth yn Loftus Road er mwyn sicrhau eu bod yn aros yn yr Uwchgynghrair.

Ond gyda chymaint i'w golli mae'n hawdd deall pam bod y cyfloed yn brin yn yr hanner cyntaf.

Canlyniad:

QPR 3-0 Abertawe

Tabl Uwchgynghrair Barclays

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Manchester United 33 +50 79
2. Manchester City 33 +53 74
3. Arsenal 33 +25 64
4. Tottenham 33 +19 58
-----------------------------------------------------------------------------------------
14. ABERTAWE 33 -9 39

Ebrill 11 2012

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.