Diwrnod cymysg i Forgannwg

Cafodd Morgannwg ddiwrnod cyntaf cymysg yn eu gêm yn erbyn Sir Derby yn Stadiwm Swalec ddydd Iau.

Cipiodd Graham Wagg bedair wiced wrth i Sir Derby sgorio 88-5 erbyn amser cinio.

Jim Allenby gipiodd y wiced arall wrth i Sir Derby ildio pum wiced am 44.

Ac er i'r glaw a mellt a tharannau darfu ar y chwarae mi oedd Swydd Derby allan am 130 yn eu batiad cynta.

Mae Morgannwg wedi cyrraedd 37 o rediadau am bedair wiced.

Roedd Morgannwg wedi colli eu gêm gyntaf i Sir Gaerlŷr o 52 rhediad dros y Sul ac fe gurodd Sir Derby Sir Northampton.

Dim ond un gêm mae Morgannwg wedi ei hennill yn eu 12 gêm gartref gyntaf ddiwethaf yn y bencampwriaeth ac nid ydyn nhw wedi curo Sir Derby ar dir Cymru ers naw mlynedd.

Morgannwg: Rees, Walters, Bragg, Wright, Allenby, Henriques, Wallace (c, wic), Wagg, Croft, Cosker, Reed

Morgannwg v Sir Derby (Diwrnod cyntaf - cinio)

Sir Derby: (Batiad cyntaf): 130

Morgannwg: 37 am 4.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.