Damwain yn achosi tagfeydd

Mae damwain rhwng pum car ger yr M4 brynhawn Iau yn achosi tagfeydd.

Roedd pum car yn y ddamwain yn Seaway Drive ym Maglan ger Port Talbot ond chafodd neb ei anafu.

Roedd y ddamwain ar y B4286 rhwng Pentwyn a Phort Talbot, ffordd gyswllt i'r M4.