Cynhadledd yn edrych ar hanes copr Abertawe

Gwaith copr Abertawe ym 1957 Image copyright Other
Image caption Mae'r gynhadledd yn astudio hanes cynhyrchu copr yn Abertawe

Ar un amser roedd Abertawe yn cynhyrchu 40% o gopr y byd ac yn cael ei alw'n 'Copperopolis'.

Cynhyrchwyd yr ingot gopr cyntaf yng ngwaith copr Yr Hafod 201 mlynedd yn ôl.

Bu'r gwaith cynhyrchu yno tan 1980.

Mae Prifysgol Morgannwg, ar y cyd gyda Phrifysgol Abertawe, yn cynnal cynhadledd i edrych ar hanes diwydiant copr y ddinas.

Dyma gynhadledd gyntaf prosiect 18 mis o'r enw World of Copper.

Dywedodd Dr Chris Evans, sy'n arwain y prosiect bod yr ardal wedi dod yn ganolbwynt i'r diwydiant trwm rhwng 1830 a 1870.

"Dyma'r diwydiant trwm cyntaf i fod yn integredig drwy'r byd i gyd.

"Roedd smeltwyr copr Abertawe, oedd yn aml yn gyfrifol am 40% o allgynnyrch copr y byd yn ystod y cyfnod yma, yn cymryd mwynau o Awstralia, Chile, Cuba a gwledydd eraill.

"Roedd copr Abertawe yn ffenomenon byd-eang ac yn golygu symud arian, gweithwyr a thechnoleg dros bellteroedd mawr."

Image copyright Other
Image caption Dr Chris Evans sydd yn arwain y brosiect

Dywedodd Dr Evans y byddai haneswyr ac archeolegwyr o Chile, Awstralia, Gogledd America a'r Almaen yn mynychu'r gynhadledd er mwyn trafod pa rôl chwaraeodd copr Abertawe yn y 19eg Ganrif.

Erbyn y 1900au cynnar roedd yr Unol Daleithiau yn cynhyrchu mwy o gopr nag Abertawe.

Ond manteisiodd Abertawe ar ei arbenigedd a symudodd i brosesau cemegol a chynhyrchu a olygodd ei bod dal yn berthnasol i'r diwydiant gopr tan ganol i ddiwedd yr 20fed ganrif.

Meddai Dr Evans: "Dyna wers mae Abertawe yn ceisio ei ddysgu hyd at heddiw."

Mae Dr Evans yn credu nad yw Abertawe wedi manteisio ar hanes y gweithiau gopr.

"Roedd Hafod yn lle'r oedd well gan y ddinas anghofio na dathlu," meddai.

"Ond yn awr mae'r prosiect, gyda chymorth Cadw, yn gobeithio trawsnewid yr ardal i atyniad i ymwelwyr gan adael i'r ddinas fanteisio ar ei gorffennol fel y mae'n haeddu gwneud."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.