Abertawe 3-0 Blackburn

Gylfi Sigurdsson sgoriodd y gôl agoriadol Image copyright Getty Images
Image caption Gylfi Sigurdsson sgoriodd y gôl agoriadol

Mae'r Elyrch wedi croesi'r 40 pwynt ar ôl buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Blackburn, sydd nawr mewn perygl mawr o ddisgyn o'r Uwchgynghrair.

Seren y gêm Gylfi Sigurdsson sgoriodd y gôl agoriadol, trwy grymanu'r bêl yn gelfydd i gornel y rhwyd.

Manteisiodd Scott Sinclair ar gamgymeriad Scott Dann cyn pasio'r bêl i Danny Graham a'i trosglwyddodd i Nathan Dyer a ergydiodd i'r rhwyd am yr ail.

Gwastraffodd David Dunn gyfleoedd i'r ymwelwyr a seliwyd eu tynged pan sgoriodd Dann i'w rhwyd ei hun ar ôl i Sigurdsson fwrw'r postyn.

Tabl Uwchgynghrair Barclays

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Manchester United 33 +50 79
2. Manchester City 34 +58 77
3. Arsenal 33 +25 64
4. Tottenham 33 +19 59
-----------------------------------------------------------------------------------------
12. ABERTAWE 34 -6 42

Ebrill 14 2012

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.