Eddie May wedi marw

Eddie May yn 1994 Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bu'n rheolwr yr Adar Gleision am bron bedair blynedd

Mae cyn reolwr Clwb Pêl-droed Caerdydd Eddie May wedi marw yn 68 oed.

Bu'n rheolwr yr Adar Gleision am bron bedair blynedd.

Roedd wrth y llyw pan ddaethant i'r brig yn y Drydedd Adran yn nhymor 1992-93.

Fe wnaethon nhw hefyd ennill Cwpan Cymru'r tymor hwnnw gyda buddugoliaeth 5-0 yn ennill Y Rhyl.

Uchafbwynt arall oedd maeddu Manchester City 1-0 yng nghwpan yr FA yn 1994.

Ganed May yn Epping a chwaraeodd dros Dagenham, Southend, Wrecsam, Chicago Sting ac Abertawe.

Bu'n rheolwr ar Gasnewydd, Torquay, Brentford, Llanelli a'r Gwyddelod Drogheda United.

Chwaraeodd dros 300 o weithiau dros Wrecsam dros gyfnod o wyth mlynedd, ac ef oedd y capten pan gyrhaeddodd y tîm rownd go gyn derfynol Cwpan Ewrop.

Yn unol â dymuniad y teulu, fe fydd teyrnged i May cyn gêm gartref Caerdydd yn erbyn Leeds ddydd Sadwrn tra bydd y chwaraewyr yn gwisgo rhwymynnau breichiau du yn y gêm yn erbyn Derby County nos Fawrth.