Etholiadau 2012: Nôl i'r blychau pleidleisio

  • 23 Ebrill 2012
Biniau sbwriel
Mae arian yn brin i gynghprai su'm cynnal gwasanaethau fel casglu ysbwriel

Cafodd pobl Cymru gyfle i leisio barn dair gwaith y llynedd - ffaith o bosib sy'n ei gwneud yn waith caletach na'r arfer wrth i ymgeiswyr geisio danio dychymyg yr etholwr unwaith eto.

Wedi refferendwm ar bwerau deddfu'r Cynulliad, etholiad y Cynulliad a refferendwm ar system bleidleisio San Steffan, yr etholiadau lleol sy'n cael y sylw eleni.

Ar Fai 3 fe fydd etholwyr yn cael eu gwahodd i bleidleisio mewn 21 o'r 22 awdurdod lleol.

Fydd 'na ddim etholiad ar Ynys Môn sy'n cael ei redeg ar hyn o bryd gan gomisiynwyr a benodwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol wedi blynyddoedd o gecru mewnol.

Yr etholiadau lleol yw'ch cyfle chi i ethol dros 1,200 o aelodau i gynghorau Cymru - y rhai fydd yn penderfynu diffodd golau stryd a maint eich treth cyngor.

Ond nid nhw yw'r unig rai sydd eisiau llais am eich cymdogaeth.

Effaith lleol

Mae Sefydliad Materion Cymreig yn amcangyfri' bod tua 8,000 o gynghorwyr tref a chymunedol yng Nghymru yn gwasanaethu 70% o'r boblogaeth.

Felly pam y dylech chi boeni pwy sy'n gwneud y gwaith?

Wedi'r cyfan, dydi cynghorwyr lleol ddim yn gorfod gwneud penderfyniadau mawr am ryfel a heddwch a sefyllfa ariannol y wlad.

Ond maen nhw'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio eich cyllid chi.

Bob blwyddyn rydym yn talu dros £1 biliwn mewn treth cyngor, sy'n codi un rhan o bump o gyllid llywodraeth leol gyda'r gweddill yn dod gan Lywodraeth Cymru.

Yr arian yma sy'n talu am wasanaethau yr ydych chi'n ddibynnol arnyn nhw bob dydd, yn ogystal â chyflogau dros 150,000 o bobl sy'n gweithio i'r awdurdodau lleol

Mae nifer o wasanaethau o'r crud i'r bedd yn cael eu rhedeg gan y cynghorau a'r penderfyniadau yn cael eu gwneud gan y cynghorwyr etholedig, o wasanaethau cymdeithasol, ysgolion, trafnidiaeth, tai a sbwriel.

Ond mae arian yn dynn.

Fel gweddill y gwasanaethau cyhoeddus, mae cynghorau o dan bwysau oherwydd toriadau Llywodraeth San Steffan.

Gwasanaethau

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn annog y cynghorau i ymestyn adnoddau drwy anwybyddu'r ffiniau a rhannu gwasanaethau.

Gyda chyllid yn prinhau mae 'na ddisgwyl i gydweithio ehangu.

Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Steve Thomas, bod toriadau "sylweddol" i gyllidebau cyfalaf sy'n talu am bethau fel ffyrdd ac adeiladau ysgolion.

Hefyd penderfynwyd rhewi cyflogau gweithwyr.

"Mae hi wedi bod yn anodd yn nhermau cynnal a chadw'r lefel bresennol o wasanaethau," meddai.

Mae cynghorau meddai wedi cyd-weithio ac wedi gwneud toriadau ond "y broblem yw'r pum mlynedd nesaf lle mae angen dal ati wrth i wariant cyhoeddus ostwng ymhellach".

"Dydi'r adnoddau ddim yno i ddechrau rhaglen o wariant," meddai.

"Y prif factor wleidyddol i'r rhai sy'n cael eu hethol yn 2012 am y cyfnod nesaf fydd i sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cynnal ac i wneud toriadau, yn anffodus, mewn llefydd allweddol."

Fe allai'r etholiad yma felly fod yn gyfle i chi gael dweud eich dweud lle ddylai'r fwyell syrthio.

Trethi

Ond dydi pleidlais mewn etholiad lleol ddim am wasanaethau lleol i gyd.

Fe fydd y canlyniad yn ddi-os yn cael ei ystyried fel arwydd o'r modd y mae'r wlad yn cael ei rhedeg.

Cafodd yr etholiadau lleol diwethaf eu cynnal yn 2008 wrth i sefyllfa'r economi waethygu a ffrae treth 10c.

Ers hynny mae Llafur a'r Ceidwadwyr wedi newid eu rôl yn San Steffan ac wedi newid eu lle yn yr arolygon barn.

Fel y Ceidwadwyr, fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn wyliadwrus ac yn ceisio cyfyngu ar y difrod waned gan unrhyw beth amhoblogaidd yn y llywodraeth glymblaid.

Mae gan Blaid Cymru arweinydd newydd ac mae Leanne Wood yn gwadu gwneud unrhyw gamau breision.

Er bod y cydbwysedd gwleidyddol wedi newid, dyma etholiad arall all gael ei benderfynu gan yr arian sydd gan yr etholwyr yn eu pocedi.

Mae hi'n dal yn gyfnod anodd i'r economi.

Yn 2008 cafwyd y ffrae am y 10c yn y band treth nawr mae ffrae am godi trethi ar basatai a thorri trethi'r cyfoethog.

Dyma'r cyfle chi i ddangos eich brwdfrydedd ar gyfer pleidlais arall.

Ond cofiwch nad dyma'r unig etholiadau eleni, ym mis Tachwedd fe fyddwch chi'n cael cyfle i ethol comisiynwyr heddlu am y tro cyntaf.