Etholiadau lleol: Cyflwr y pleidiau

Blwch pleidleisio
Be fydd neges yr etholwyr i'r gwleidyddion yn yr erholiad yn 2012?

Fe wnaeth y Blaid Lafur ddiodde' colledion yn etholiadau llywodraeth leol Cymru 2008.

Pam wnaeth hyn ddigwydd a be all ddigwydd yn yr etholiadau i'r pedair prif blaid yn yr etholiadau eleni ar Fai 3?

Fe fydd y canlyniad yn cael ei ystyried yn neges gan etholwyr Cymru i Lywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd ac i'r llywodraeth glymblaid yn San Steffan.

Ond yn wahanol i etholiad cyffredinol mae gan y garfan 'annibynnol' ddylanwad sylweddol mewn rhannau o Gymru, ardaloedd fel Sir Benfro a Phowys.

Fe wnaeth bron i 250,000 o bobl bleidleisio i ymgeiswyr annibynnol yn 2008.

Ond yn 2008 fe wnaeth math newydd o annibynwyr ymddangos gan ennill tir oddi wrth y Blaid Lafur mewn cadarnleoedd fel y cymoedd.

Cydnabod 'ergyd'

Roedd hwn yn un rheswm pam i'r Blaid Lafur berfformio mor wael.

Rhodri Morgan
Fe wnaeth Rhodri Morgan gydnabod i'w blaid gael ergyd yn 2008

Fe wnaeth y Prif Weinidog ac Arweinydd y Blaid yng Nghymru ar y pryd, Rhodri Morgan, gydnabod wedi'r canlyniadau eu bod wedi cael "ergyd".

Roedd y cynghorau oedd yn cael eu targedu gan y blaid, fel Caerdydd ac Abertawe, yn parhau i fod allan o'u gafael.

Yn ogystal fe wnaeth y blaid golli cynghorau y dylen nhw fod wedi bod yn sicr o'u cadw.

Ym Mlaenau Gwent bu gostyngiad o 22% ym mhleidlais Llafur.

Roedd hyn yn rhannol oherwydd ffrae o fewn y blaid yn lleol am greu rhestr fer o ymgeiswyr benywaidd yn unig ar gyfer yr etholiad cyffredinol yn 2005.

Fe wnaeth yr anfodlonrwydd gyda Llafur ledu i Gyngor Torfaen.

Newidiodd y cyngor o fod dan reolaeth Llafur, i gyngor lle nad oedd gan yr un garfan reolaeth lawn.

Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol a'r aelodau annibynnol gynyddu eu canran o'r bleidlais 17% a 15% ym Merthyr Tudful.

Canlyniad hynny, oedd i Lafur golli rheolaeth o'r cyngor.

Roedd anfodlonrwydd ymhlith yr etholwyr am ddileu'r band treth 10c, gan gosbi plaid Gordon Brown yn y blychau pleidleisio.

Ceidwadwyr yn dathlu

Roedd y ffrae treth 10c wedi argyhoeddi nifer o etholwyr bod y Blaid Lafur wedi colli cysylltiad.

Bu David Cameron yn dathlu canlyniadau gwych i'r Ceidwadwyr wedi etholaid 2008 yn Y Barri gydag arweinydd cyngor Bro Morgannwg Gordon Kemp
Bu David Cameron yn dathlu canlyniadau gwych i'r Ceidwadwyr wedi etholaid 2008 yn Y Barri gydag arweinydd cyngor Bro Morgannwg Gordon Kemp

Nawr mae Llafur yn ceisio darbwyllo'r etholwyr bod yr un peth yn wir am y llywodraeth glymblaid yn San Steffan gan dynnu sylw at dorri trethi'r cyfoethog a chysylltiad y Ceidwadwyr gyda rhoddwyr cyfoethog.

Mewn cyferbyniad a'r Blaid Lafur, fe gafodd y Ceidwadwyr noson dda ym mis Mai 2008.

Yn g Nghymru fe gawson nhw gynnydd o 5%, tra i'r bleidlais Lafur ostwng bron i 5%.

Fe wnaeth David Cameron daith i'r Barri ym Mro Morgannwg ar ôl i'r Ceidwadwyr ennill rheolaeth o'r cyngor.

Roedd hyn yn gam allweddol i'r blaid os oedd o am symud i Downing Street yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

"Mae hyn yn gam mawr ymlaen," meddai.

Ar y pryd roedd o ar y blaen mewn arolygon barn.

Pedair blynedd yn ddiweddarach mae'r Ceidwadwyr y tu ôl i'r Blaid Lafur.

Arweinydd newydd

Roedd cyfanswm pleidleisiau'r Ceidwadwyr yn ail yn unig i'r Blaid Lafur yn 2008, (269,000 i 461,000) ond roedden nhw y tu ôl i Blaid Cymru o ran nifer y seddi.

Er gwaetha' gwrthwynebiad i gau ysgolion yn eu cadarnle' yng Ngwynedd, fe lwyddodd Plaid Cymru i ennill tir mewn rhannau eraill o Gymru gan gynnwys yng Nghaerffili, un o gadarnleoedd Llafur.

Eleni fe fydd Plaid Cymru yn ceisio amddiffyn eu harweinyddiaeth o'r cyngor yno.

Rhag ofn bod etholwyr yn penderfynu dychwelyd i rengoedd Llafur dyw Plaid Cymru heb fod yn son am wneud enillion sylweddol.

Bydd hwn yn brawf cynnar i'r arweinydd newydd Leanne Wood.

Yn y cyfamser mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol waith i'w wneud ar ôl diodde' eu canlyniad gwaethaf yn etholiad y cynulliad y llynedd.

Cyllid ysgolion

Mae eu presenoldeb mewn llywodraeth leol yn allweddol i weithgareddau craidd y blaid.

Mae ganddyn nhw 140 o seddi i'w hamddiffyn yn yr etholiadau, gan gynnwys eu rheolaeth o gynghorau Abertawe a Chaerdydd.

Os fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gwneud yn dda yn eich ardaloedd chi, fe fyddwch yn siŵr o glywed am gyllid ysgolion.

Mae cytundeb cyllideb rhwng y blaid a Llywodraeth Cymru y llynedd yn golygu bod £450 ychwanegol wedi ei neilltuo ar gyfer pob disgybl sy'n derbyn cinio ysgol am ddim.

Fel y Ceidwadwyr fe all y Democratiaid Rhyddfrydol ddioddef oherwydd unrhyw amhoblogrwydd ymhlith y cyhoedd ynglŷn â pholisïau'r glymblaid yn San Steffan.

Llafur oedd yn llywodraethu yn 2008, ac fe wnaeth y blaid dalu'n ddrud yn y blychau pleidleisio.

Yn gefndir i'r etholiadau lleol bryd hynny oedd y penderfyniad i ddileu'r band treth 10 c.

Eleni tybed a'r trech ar bastai fydd yn cynddeiriogi'r etholwyr.

Yn yr etholiadau yn 2008 yr arian yn eu pocedi oedd yn poeni pobl wrth iddynt ddewis 1,200 o gynghorwyr.

Ond nawr bod rhywun arall yn llywodraethu bydd Llafur yn ddigon bodlon i weld yr etholwyr yn dial oherwydd cyfnod economaidd anodd.