Cleverly'n tynnu allan o ornest ym mis Ebrill

Nathan Cleverly Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae Cleverly wedi ennill 24 gornest ac heb golli un

Mae Nathan Cleverly wedi penderfynu tynnu allan o ornest is-drwm WBO y byd ym mis Ebrill.

Ei wrthwynebydd i fod oedd Robin Krasniqi o Serbia yn Neuadd Albert ar Ebrill 28.

Dywedodd y Cymro 25 oed o Gefn Fforest ger y Coed-duon: "Dwi ddim wedi bod yn hyfforddi oherwydd feirws.

"A bod yn onest, does dim digon o amser i adennill tir wedi'r oriau o hyfforddi dwi wedi eu colli."

Dyw hi ddim yn glir eto a fydd dyddiad yr ornest yn cael ei newid neu a fydd yn gorfod wynebu Dmitry Sukhotsky o Rwsia.

"Dwi wedi derbyn cyngor y doctor, gorffwys yn llwyr cyn ailddechrau hyfforddi."

Dywedodd ei fod yn siomedig iawn. "Roeddwn i'n edrych ymlaen at roi paffio ar y map yn Neuadd Albert, y tro cynta ers mwy na 10 mlynedd."

Mae Cleverly wedi ennill 24 gornest ac heb golli un.

Straeon perthnasol