Pêl-droediwr yn gwrthod honiadau

Ched Evans (chwith) a Clayton McDonald yn Llys y Goron, Caernarfon Image copyright PA
Image caption Ched Evans (chwith) a Clayton McDonald tu allan i Lys y Goron, Caernarfon

Mae chwaraewr Cymru, Ched Evans, wedi gwrthod honiadau iddo dreisio dynes mewn gwesty yn Rhuddlan.

Yn Llys y Goron Caernarfon dywedodd ei bod hi wedi cydsynio.

Mae Mr Evans a Clayton McDonald, sy'n chwarae i Port Vale, y ddau'n 23 oed, wedi gwadu cyhuddiad o dreisio.

Cyfaddefodd y ddau eu bod nhw wedi cael rhyw â'r ddynes oedd yn 19 ar y pryd ar Fai 30 2011 ond mae'r erlyniad wedi honni nad oedd hi mewn unrhyw gyflwr i gydsynio.

Gofynnodd bargyfreithiwr yr amddiffyn, David Fish CF: "A gawsoch chi yn oriau mân Mai 30 gyfathrach rywiol â hi?"

Atebodd Mr Evans: "Do."

'Cydsynio?'

Gofynnodd Mr Fish: "A wnaeth hi gydsynio?"

Yr ateb oedd: "Do."

"Oedd yna reswm i gredu neu a awgrymodd hi unrhywbeth barodd i chi feddwl nad oedd yn cydsynio?"

"Nac oedd."

Clywodd y llys nad oedd Mr Evans yn euog o drosedd flaenorol ond iddo gael rhybudd yng Ngorffennaf 2010 wedi iddo ddweud bod ei ffôn poced wedi cwympo i mewn i bwll.

Roedd rhywun wedi ei ddwyn o far.

18 mis

Dywedodd iddo gyfarfod â Clayton McDonald pan oedd y ddau yn Academi Ieuenctid Manchester City.

Adeg yr ymosodiad honedig, meddai, roedd wedi bod yn mynd allan â merch am 18 mis.

Hi oedd ei gariad presennol, meddai.

Mynnodd Mr Evans nad oe syniad oedd "dod o hyd i ferch does a ddelo y noson dan sylw".

Mae'r achos yn parhau.

Straeon perthnasol