Damwain farwol: Chwilio am dyst

Gwasanaethau brys Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 3:36pm

Mae'r heddlu am siarad â theithiwr car arall wedi i ddynes gael ei lladd mewn gwrthdrawiad yn Llandrillo-yn-Rhos brynhawn Llun.

Roedd Celia Mary Service, 72 oed, yn byw ym Mae Colwyn, Sir Conwy.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 3:36pm wedi i gar Jaguar glas daro dwy ddynes oedd yn cerdded ger Ffordd y Rhos.

Aed â'r ddynes arall i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Dywedodd y Cwnstabl PC Mark Lightfoot fod yr heddlu'n awyddus i siarad â theithiwr car Renault Scenic gwyrdd.

'Helpu'

"Roedd y Jaguar wedi gyrru o flaen y Renault cyn cyrraedd y llwybr troed.

"Rydym yn gwybod bod teithiwr y Renault wedi gadael y car yn syth a chynnig helpu.

"Mae'n debyg bod y rhai yn y Renault wedi gweld y gwrthdrawiad a'r hyn ddigwyddodd cyn hynny."

Fe gafodd gyrrwr lleol y car Jaguar ei gludo i'r ysbyty ond y gred yw nad yw ei anafiadau yntau'n ddifrifol.

Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu gyda'r Uned Blismona Ffyrdd yn Llanelwy ar 101.