Addysg i barhau'n bwnc llosg yn yr etholiadau lleol

  • 23 Ebrill 2012
Disgyblion ysgol
Roedd dyfodol ysgolion gwledig yn bwnc llosg yn etholiadau lleol Gwynedd yn 2008

Yn yr ail o saith erthygl am rai o awdurdodau allweddol yr etholiadau lleol ar Fai 3, Sion Tecwyn sy'n bwrw golwg ar fater sy'n bwysig i etholwyr yng Ngwynedd.

Dyfodol ysgolion bychain gwledig yn anad dim oedd y rheswm am un o'r canlyniadau mwyaf annisgwyl yn etholiadau lleol Cymru y tro diwethaf.

Yng Ngwynedd llwyddodd plaid newydd Llais Gwynedd i gipio 13 o seddau yn etholiad 2008, gan ddisodli rhai o ffigyrau amlycaf Plaid Cymru.

Collodd Plaid Cymru eu mwyafrif er mai nhw oedd y blaid â'r nifer uchaf o seddau.

Roedd y canlyniad yn dilyn ton o brotest mewn sawl ardal ynglŷn â chynlluniau'r cyngor i gau hyd at 29 o ysgolion.

O ganlyniad penderfynodd yr awdurdod ail-ystyried ac edrych ar y sefyllfa fesul ardal.

Penderfyniadau anodd

O'r herwydd mae'r protestio ers hynny wedi bod ar raddfa dipyn llai er y bu 'na wrthwynebiad ffyrnig yn ardaloedd Tywyn a'r Bala yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ofer bu'r protestiadau yna wrth i'r cyngor benderfynu bwrw 'mlaen i gau rhai ysgolion yno. Mae cynlluniau tebyg yn ardal Dolgellau hefyd wedi cael sêl bendith.

Dadl Plaid Cymru - wnaeth adennill eu mwyafrif ar y cyngor y flwyddyn ddiwethaf - ydi bod yn rhaid cymryd penderfyniadau anodd yn wyneb gostyngiad yn nifer y plant a'r angen i wneud y defnydd gorau posib o arian ac adnoddau.

Mae'r ad-drefnu hefyd wedi arwain at ddenu miliynau o bunnau o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer codi ysgolion newydd.

Yn gyffredinol, mae'r penderfyniadau i gau ysgolion wedi cael cefnogaeth cynghorwyr Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ogystal â rhai aelodau Annibynnol.

Pryder rhieni a llywodraethwyr mewn dalgylchoedd eraill yn Llŷn, Eifionydd, ac Arfon ydi y bydd yr awdurdod yn troi eu golygon at eu hardaloedd nhw wedi'r etholiad.

Calon y gymuned

Yn ôl y cyngor, maen nhw dan bwysau gan Lywodraeth Cymru i sicrhau fod yna lai o lefydd gweigion yn eu hysgolion.

Maen nhw'n dweud iddyn nhw gael canmoliaeth yn ddiweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru am wneud penderfyniadau anodd i geisio sicrhau gwell addysg i bobl ifainc y sir.

Ond mae Llais Gwynedd yn parhau'n chwyrn yn erbyn y mwyafrif o benderfyniadau i gau.

Maen nhw'n dweud mai'r ysgol ydi calon y gymuned mewn nifer o ardaloedd gwledig.

Ail-ystyried

Eu dadl nhw ydi na ddylid cau ysgol os ydi'r gymuned yn dymuno ei chadw ac os ydi'r safonau addysgol yn dderbyniol.

Os byddan nhw'n ennill grym, byddan nhw'n ail-ystyried y penderfyniadau i gau ysgolion.

Efallai nad ydi o'n ennyn cymaint o emosiwn ag yr oedd o yn 2008 ond mae dyfodol ysgolion bychain yn sicr o fod yn bwnc llosg mewn sawl sedd yng Ngwynedd ac ardaloedd eraill yn y Gymru wledig.