Cymry'n gorffen yn gryf ym mhencampwriaeth Golff China

Rhys Davies Image copyright Getty Images
Image caption Rhys Davies oedd y gorau o'r tri yn China

Cafodd y tri Chymro sy'n cystadlu ym Mhencampwriaeth Golff Agored China rowndiau cryf i orffen y gystadleuaeth.

Ond doedd dim y gallai'r tri wneud i ddal Branden Grace o Dde Affrica. Creodd yntau hanes drwy ennill ei drydedd cystadleuaeth yn ei dymor cyntaf ar y gylchdaith proffesiynnol.

Cafodd Rhys Davies, Jamie Donaldson a Bradley Dredge rowndiau yn well na'r safon yn y rownd olaf dros nos Sadwrn.

Ond 39 oedd y safle gorau i'r Cymry yn Tianjin gyda Rhys Davies yn dod i'r brig.

Canlyniadau:

1. Branden Grace (De Affrica) -21 (67;67;64;69)

2. Nicolas Colsaerts (Belg) -18 (68;67;66;69)

3. Richard Finch (Lloegr) -17 (67;73;65;66)

Y Cymry:

=39. Rhys Davies -8 (72;69;71;68)

=44. Jamie Donaldson -7 (71;71;70;69)

=44. Bradley Dredge -7 (70;72;72;67)