Etholiad: Tai yn bwysig yng Nghaerdydd

Safle hen waith melin Pont Elai
Does dim byd ar safle Pont Elái ers i'r gwaith gael ei ddymchwel

Yn y gyntaf o saith erthygl am rai o awdurdodau allweddol yr etholiadau lleol ar Fai 3, Gwenfair Griffith sy'n bwrw golwg ar fater sy'n bwysig i etholwyr yng Nghaerdydd.

Caerdydd yw awdurdod lleol mwyaf Cymru, felly does dim syndod bod galw mawr am dai yn y Brifddinas.

Mae 10,200 o bobl ar y rhestr aros am dai yn y ddinas, ac mae 500 o deuluoedd yn aros am lety dros dro.

Yn y cyfamser, mae Caerdydd yn wynebu her o ran nifer y tai gwag yn y ddinas. Yn ôl ffigurau'r cyngor, mae 'na ryw 4,000 eiddo gwag yng Nghaerdydd ar unrhyw un adeg - o'r rheiny, mae 1,500 wedi bod yn wag am fwy na 6 mis.

Yn ôl JJ Costello, Pennaeth Strategaeth a Datblygiad Shelter Cymru:

"Fel yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, does dim un ateb unigol, ond y ffordd ymlaen fyddai cymryd mantais o nifer o gyfleoedd. Yn amlwg, mae angen tai fforddiadwy, neu dai cymdeithasol ac mae cymhorthdal Llywodraeth Cymru'n dal i ostwng.

"Mae atal digartrefedd yn allweddol i leihau'r galw cynyddol am dai."

Cynllun newydd

Mae Shelter hefyd o'r farn ei bod hi'n bwysig i ymestyn cynlluniau i achub morgeisi yng Nghaerdydd. Maen nhw'n dweud y byddai hynny'n gostwng nifer y bobl sy'n colli eu tai am eu bod nhw mewn dyled ar eu taliadau morgais.

Mae sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio hefyd yn flaenoriaeth iddyn nhw.

Barn Cyngor Caerdydd ar hyn o bryd yw mai tir gwag sydd wedi'i ddatblygu'n barod yw'r lle gorau i adeiladu tai newydd; mae cynlluniau i ddatblygu ar gaeau gwyrdd yn aml yn cynddeiriogi cymdogion lleol.

Yr wythnos hon, daeth cyhoeddiad y byddai 700 o dai newydd yn cael eu hadeiladu ar hen safle melin bapur yn Nhrelái. Cwmni nid-am-elw fydd yn adeiladu'r tai, yn sgil cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Adeiladu'r Principality.

Maen nhw eisiau gwario £100 miliwn ar ddatblygu'r safle. Yn 53 acer i gyd, bydd y datblygiad, sydd eto i fynd gerbron swyddogion cynllunio, yn cynnwys tai fforddiadwy, a byddai'r tenantiaid yn cael cynnig rhent sy'n gyfartal neu'n is na'r graddfeydd lwfans tai lleol.

Dywedodd prif weithredwr grŵp y Principality, Peter Griffiths: "Rydym o'r farn sicr y gallai darparu'r math yma o fodel rhentu gael ei ailadrodd ar safleoedd eraill yng Nghymru er mwyn datrys rhai o'r problemau gyda'r farchnad dai ar hyn o bryd."

Barn y pleidiau

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cael gorchymyn gan Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun datblygu lleol i ddangos sut y byddan nhw'n ateb y galw am dai dros y blynyddoedd nesaf.

Dydi Caerdydd ddim wedi rhyddhau eu cynllun nhw eto, gan ddweud y bydd y cyngor yn ystyried y mater fis Hydref 2012 - ar ôl yr etholiadau lleol.

Mae gan bob un o'r prif bleidiau eu safbwynt eu hunain am sut i fynd i'r afael â materion tai'r wlad.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn pwysleisio bod angen defnyddio tai gwag, a sicrhau mwy o arian preifat i wario ar dai ac amddiffyn unrhyw dai cymdeithasol sydd ar rent rhag cael eu gwerthu.

Mae'r Ceidwadwyr wedi addo taclo'r broblem o adeiladu tai ar erddi tai eraill, ac atal datblygu 'anaddas' ar orlifdir afonydd yng nghefn gwlad Cymru.

Mae Plaid Cymru o blaid datganoli deddfwriaeth tai i Gymru, ac yn addo mwy o dai fforddiadwy dros y pedair blynedd nesaf. Maen nhw hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd buddsoddi i sicrhau bod cartrefi yn wir ynni-effeithlon.

Yn y cyfamser, mae Llafur Cymru yn dweud eu bod nhw wedi ymrwymo i ddarparu cymysgedd gref o dai cymdeithasol a phreifat, ac maen nhw'n addo £1.2 biliwn er mwyn sicrhau Tai Cymreig o Safon i bob cyngor a thenantiaid cymdeithasau tai ar draws Cymru.