Yr heddlu a thrigolion yn chwilio am ddyn coll

Trevor Elias Image copyright Other
Image caption Me Trevor Elias wedi bod ar goll ers Ebrill 7

Mae dros 1,000 o daflenni a phosteri wedi eu dosbarthu mewn ymgais i ddod o hyd i bensiynwr sydd wedi bod ar goll o'i gartref yn Abertridwr, sir Caerffili.

Does neb wedi gweld Trevor Elias, 77 oed, Ebrill 7.

Dywedodd Heddlu Gwent fod yr hofrennydd wedi cael ei defnyddio i helpu'r rhai sy wedi bod yn chwilio am Mr Elias.

Mae'r pensiynwr yn 6 troedfedd o daldra gyda gwallt brown byr. Fel rheol mae'n gwisgo sbectol, ond doedd y rhain ddim arno pan welwyd ddiwethaf.

Yr wythnos hon cafodd taflenni eu dosbarthu yn y pentref a chafodd posteri eu gosod mewn llefydd amlwg.

Bu 400 o bobl yn bresennol mewn gwylnos y penwythnos diwethaf

'Rhyfedd'

Dywedodd Victoria Ford: "Does neb yn Abertridwr a gair drwg i ddweud am Trevor. "

"Mae pobl yn trefnu grwpiau i chwilio amdano, ac mae ei ddiflaniad yn rhyfedd iawn."

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: "Mae swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r gymuned leol er mwyn dod o hyd i unrhyw wybodaeth a all helpu ddod o hyd i Mr Elias.

"Dylai unrhyw un sy'n gweld Mr Elias neu sydd â gwybodaeth amdano gysylltu â'r heddlu ar 101."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.